Dyffryn Nantlle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Edrych i lawr Dyffryn Nantlle o gopa'r Wyddfa. Llyn Nantlle yn y canol.

Mae Dyffryn Nantlle yn ardal yng Ngwynedd sy'n ymestyn o Ryd-Ddu wrth droed Yr Wyddfa tua'r gogledd hyd y môr. Llifa Afon Drws-y-coed trwy ran uchaf y dyffryn ac i mewn i Lyn Nantlle Uchaf lle mae Afon Llyfni yn tarddu ac yn llifo ar hyd y dyffryn tua'r môr. A dilyn dalgylch yr afon, gellid ystyried bod Dyffryn Nantlle yn dechrau ychydig uwchben Drws-y-coed, ond mae pentref Rhyd-Ddu yn cael ei gynnwys yn Nyffryn Nantlle fel rheol, er ei fod ar Afon Gwyrfai. Ar ochr ddeheuol y dyffryn mae Crib Nantlle, cyfres o fynyddoedd o'r Garn ger Rhyd-Ddu hyd Mynydd Graig Goch uwchben Llyn Cwm Dulyn. Ar ochr ogleddol y dyffryn mae Mynydd Mawr a Moel Tryfan. Mae Dyffryn Nantlle yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, gyda tua 80% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Cyfeirir at nifer o leoedd yn Nyffryn Nantlle ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dywedir fod y gair "Nantlle" ei hun yn dod o "Nant Lleu".

Bu chwareli llechi yn yr ardal yn gynnar, ac yn y 18fed ganrif Chwarel y Cilgwyn oedd y fwyaf yng Nghymru. Tyfodd y boblogaeth yn gyflym gyda datblygiad y diwydiant llechi yn y 19eg ganrif, ac yr oedd cryn nifer o chwareli yn y dyffryn. Chwarel Dorothea a Chwarel Penyrorsedd oedd y ddwy fwyaf. Erbyn diwedd y 1860au yr oedd Dyffryn Nantlle yn cynhyrchu 40,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Yr oedd Rheilffordd Nantlle, oedd â'r wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau, yn cario llechi o'r chwareli o 1865 hyd 1963.

Yn dilyn machlud y diwydiant llechi, daeth diweithdra yn broblem ddifrifol yn y dyffryn. Gwnaed ymdrech i ddenu diwydiannau ysgafn i'r ardal, er enghraifft i Stad Ddiwydiannol Penygroes. Yn 1991 sefydlwyd "Antur Nantlle Cyf" fel prosiect cymunedol i wella bywyd yn y dyffryn.

Trefi a phentrefi[golygu]

Prif ganolfan y dyffryn yw Penygroes. Ystyrir fod y pentrefi canlynol yn rhan o Ddyffryn Nantlle:

Enwogion o'r Dyffryn[golygu]

  • Ymgartrefodd yr awdur adnabyddus Eirug Wyn yn Y Groeslon i fagu ei deulu - bu'n byw yno hyd ei farwolaeth yn 2004.

Darllen pellach[golygu]

Darlithoedd Blynyddol Llyfrgell Pen-y-groes (1967- ), yn disgrifio hanes a diwylliant y fro:

  • Mathonwy Hughes, Bywyd yr Ucheldir (Caernarfon, 1973)
  • Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm..." (Caernarfon, 1968)

Cysylltiadau allanol[golygu]