Richard Henry Rees

Oddi ar Wicipedia
Richard Henry Rees
Ganwyd1926 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Hydref 2003 Edit this on Wikidata
Galwedigaethffermwr, canwr Edit this on Wikidata
Clawr un o albymau'r baswr o Bennal.
Carreg fedd Dic Rees yn Eglwys Sant Tannwg a Sant Eithrias.

Ffermwr a baswr oedd Richard Henry Rees neu Richard Rees (1926 – 4/5 Hydref 2003). Symudodd ei deulu o Gorris i Bennal pan oedd yn ddeuddeg oed, lle bu'n ffermio ar fferm "Penmaenbach", ym Mhennal, Gwynedd.[1] Fe'i ystyrir yn un o gantorion gorau ei oes a cheir sawl recordiad o'i lais.[2][3]

Er iddo gael cynnig lle mewn coleg yn Llundain, penderfynnodd aros ar y fferm i weithio. Ef oedd y cyntaf erioed i ennill y Rhuban Glas ddwywaith: yn dod yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1952 pan ganodd "Y Dymestl" a'r ail ym Mhwllheli, dair blynedd yn ddiweddarach. Cafodd gyfnod fel prif faswr Cwmni Opera Cymru ac roedd ganddo raglenni ei hun ar y BBC ac ITV.

Cysylltir Dic gyda'r "Dymestl", "Y Marchog", "Brad Dynrafon" ac "Aros Mae'r Mynyddau Mawr". Troediodd lwyfannau mwya'r byd ac ymhlith yr operâu y bu'n rhan ohonynt y mae:

  • The Erl King (Schubert)
  • Y Prolog i Pagliacci (Leon Cavallo)
  • II Lacerato Spirito (Verdi)
  • Non Piu Andrai (Mozart)
  • Honour and Arms (Handel)
  • Thus Saith The Lord (Handel)
  • The Barber of Seville (Gioachino Rossini)

Fe'i claddwyd ym mynwent gron Eglwys Pennal.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan BBC Cymru[dolen marw]; "Cawr, Cymro a Chyfaill"; Tachwedd 20013; adalwyd 25 Ionawr 2014
  2. Albwm: Richard Rees Y Baswr o "Benmaenbach", Pennal ar wefan Welsh Gifts[dolen marw]; adalwyd 25 Ionawr 2014
  3. SAIN (RECORDIAU) CYF Archifwyd 2014-07-01 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 25 Ionawr 2014