Tŷ haf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

a ddefnyddir fel cartref dros dro pan fo pobl ar wyliau yw tŷ haf, disgrifir ef yn aml fel ail gartref.

Mae ail gartrefi a thai haf, yn aml, yn fater dadleuol achos bod nifer o bobl yn teimlo eu bod nhw'n effeithio yn negatif ar y gymuned leol. Yng Nghymru, cafwyd ymgyrchoedd yn eu herbyn - gan gynnwys ymgyrchoedd meddiannu'r tai yn yr 1970au - gan Mudiad Adfer a Cymdeithas yr Iaith a chafwyd ymgyrch Llosgi Tai Haf yn ystod yr 1980au gan Feibion Glyndŵr oherwydd eu gwrthwynebiad i'r cynnydd yn nifer y tai haf ac effaith y mewnlifiad o Loegr. Heddiw mae Cymuned yn ymgyrchu (yn heddychol) yn eu herbyn.

O'i gymharu â gwestai a gwely a brecwast, gall rhentu tŷ gyda chyfleusterau arlwyo arbed llawer o arian i deuluoedd neu grwpiau o bobl sy'n mynd ar wyliau gyda'i gilydd.[1] Mae nifer o fusnesau wedi datblygu gwefannau lle y gall perchnogion tai haf hysbysebu eu heiddo a gall y cwsmeriaid chwilio am dŷ i'w rentu am gyfnod byr. Mae dyfodiad y we wedi cael effaith mawr ar y busnes twristiaeth,[2] gan achosi i dai haf gystadlu gyda gwestai ar raddfa llawer mwy nag yn y gorffennol.[3]

Nid yw pob tŷ haf yn eiddo a ddefnyddir er mwyn elw yn unig; fe'u defnyddir yn aml fel ail gartref ar gyfer teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd dinesig. Gall y teuluoedd hyn eu rhentu i ymwelwyr eraill pan nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain, er mwyn talu'r morgais ar yr ail gartref, neu rannu'r gost gyda ffrindiau drwy ranberchnogaeth.

Mae llawer o berchnogion tai haf yn ymweld â'u hail gartref ar y penwythnos, gan ddychwelyd i'w prif gartref yn ystod yr wythnos. Mae rhaglenni teledu megis Relocation, Relocation yn enghraifft o boblogrwydd y syniad o fod yn berchen ar ddau gartref ac mae'r defnydd o dai fel buddsoddiad wedi achosi i'r gwahaniaeth rhwng tŷ haf ac ail gartref ddod yn aneglur.

Niferoedd[golygu]

Gwledydd Prydain[golygu]

Tai haf/ail gartrefi yn Lloegr, 2006[4]
Ardal Nifer Canran
Cernyw ac Ynysoedd Syllan  13,458 5.6%
Cumbria 7,906 3.4%
Dorset 10,540 3.2%
Norfolk 11,857 3.1%
Dyfnaint 14,813 3.0%
Dwyrain Sussex 7,583 2.1%
Northumberland 2,805 2.0%
Gogledd Efrog 7,074 1.9%
Gorllewin Sussex 6,266 1.8%
Suffolk 5,414 1.8%

Cymru[golygu]

Mae tai haf ac ail gartrefi yn 14% o stoc tai yn Eryri, o'i gymharu â ffigwr o 1% o stoc dai Cymru gyfan.[5] Yng Ngwynedd yn unig mae'r cyngor wedi rhoi mesurau yn eu lle i reoli'r nifer o dai haf. Ond rheoli datblygiadau newydd yn unig y maent, gan wrthod caniatâd lle bydd datblygu yn debygol o godi'r ffigwr mewn unrhyw gymuned dros 10%, nid ydynt yn atal unrhyw un rhag prynu tŷ haf.[6]

Lloegr[golygu]

Cyfrifwyd y nifer yng Nghernyw ac Ynysoedd Syllan i fod yn 5.6% yn 2004 a 2006,[7] dyma'r ardal gyda'r canran mwyaf o ail gartrefi yn Lloegr gyfan.[4] Mewn blwyddyn yn unig, rhwng 2004 a 2005 cynyddodd y canran o stoc dai Lloegr a oedd yn dai haf o 3.3%.[8]

Yr Alban[golygu]

Tai haf/ail gartrefi yn yr Alban, 2006[6]
Ardal Canran   Ardal Canran
Argyll a Bute 11.1% Caeredin 0.7%
Eilean Siar 7.2% Aberdeen 0.6%
Ucheldiroedd yr Alban 6.2% Swydd Clackmannan 0.2%
Ynysoedd Orkney 5.3% Dundee 0.2%
Ynysoedd Shetland 3.6% Dwyrain Swydd Ayr 0.2%
Perth a Kinross 3.1% Falkirk 0.2%
Gogledd Swydd Ayr 2.4% Glasgow 0.2%
Dumfries a Galloway 2.3% Inverclyde 0.2%
Gororau'r Alban 2.3% De Swydd Lanark 0.2%
Moray 2.2% Gorllewin Swydd Dunbarton 0.2%
Swydd Aberdeen 1.8% Dwyrain Swydd Dunbarton 0.1%
De Swydd Ayr 1.5% Dwyrain Swydd Renfrew 0.1%
Stirling 1.4% Gogledd Swydd Lanark 0.1%
Dwyrain Lothian 1.2% Swydd Renfrew 0.1%
Angus 1.1% Gorllewin Lothian 0.1%
Fife 0.9%

Roedd 29,299 o ail gartrefi a thai haf yn yr Alban yn ôl cyfrifiad 2001, sef 1.3% o'r holl stoc tai. Roedd y ffigwr yn 19,756 ym 1981, ond yn ystod yr 1990au y gwnaed y cynnydd mwyaf. Yn wahanol i'r arfer, yn yr ardaloedd trefol mae'r Alban wedi gweld y cynnydd mwyaf sylweddol o dai haf ac ail gartrefi yn ddiweddar, yn arbennig yng Nghaeredin ac Aberdeen. Ond, mae'r rhan fwyaf o'r tai haf a'r ail gartrefi yn dal i'w canfod yn yr ardaloed gwledig, yn nodweddiadol, roedd 47% o'r tai rhain yn yr ardaloedd gwledig pell, lle roedd un ym mhob wyth o dai yn dŷ haf neu'n ail gartref.[9]

Ffrainc[golygu]

Mae'r ffigwr yn Ffrainc yn weddol uchel hefyd, gyda 10% o'r holl stoc tai yn dai haf ac ail gartrefi, ond mae'r rhan fwyaf yn eiddo i'r Ffrancod eu hunain. Dim ond tua 300,000 o dai, neu 1% o'r holl stoc tai, sy'n eiddo i dramorwyr. O'r canran hwn mae 28% yn eiddo i Brydeinwyr, 14% i Eidalwyr, 10% i Felgiaid, 8% i Iseldirwyr, 3% i Sbaenwyr a 3% i Americanwyr.[10]

Yr Unol Daleithiau[golygu]

Tai haf/ail gartrefi yng
ngogledd ddwyrain U.D.A, 2000
Ardal Nifer Canran
Maine 103,569 15.89%
Vermont 44,006 14.95%
New Hampshire 57,251 10.47%
Delaware 26,600 7.75%
Massachusetts 97,434 3.72%
New Jersey 115,439 3.49%
Efrog Newydd 250,199 3.26%
Rhode Island 13,624 3.10%
Pennsylvania 154,495 2.94%
Maryland 42,541 1.98%
Connecticut 25,565 1.84%
Ardal Columbia 2,811 1.02%
Gorllewin Virginia 38,326 0.54%

Yn 2000, roedd 3,578,718, sef 3.09% o stoc tai yr Unol Daleithiau yn dai haf ac ail gartrefi, o'i gymharu â 2.66% yn 1990, 1.87% yn 1980. Lleolir 26% o ail gartrefi'r Unol Daleithiau yn nhaleithiau'r gogledd ddwyrain, gyda thua 250,199 (7% o'r holl ail gartrefi) wedi eu lleoli yn Efrog Newydd.[11]

Costau ac effaith[golygu]

Treth cyngor[golygu]

Roedd perchnogion ail gartrefi a thai haf yn arfer gallu hawlio gostyngiad yn eu treth cyngor gan y bu'r eiddo yn wag am gyfnod hir pob blwyddyn, ond nid yw hyn yn wir bellach mewn nifer o siroedd, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin; os yw'r eiddo yn wag (ond yn dal i fod wedi'i ddodrefnu) ni chaniateir unrhyw ostyngiad a bydd y perchennog yn atebol i dalu'r treth yn llawn.[12] Ond, yng Nghernyw, ers 2004 gall perchnogion ail gartrefi hawlio 10% o ostyngiad yn eu trethi.[7] Cyn 2004, gallent hawlio 50% o ostyngiad yng Nghernyw,[13] gallent dal hawlio 50% mewn nifer o ardaloedd eraill Lloegr.[4] Mae'r mudiad Cymuned yn hybu'r egwyddor y dylai berchnogion tai haf ac ail gartrefi dalu ddwywaith gymaint o dreth cyngor, gan nad ydynt yn buddsoddi yn y gymuned lleol fel arall.[14] Mae hyn i'w weld mewn adroddiad i effaith tai haf yn yr Alban, a ganfyddodd fod pobl sy'n mynd ar wyliau i ymweld ag ail gartref neu dŷ haf ddim ond yn gwario £32 y dydd ar gyfartaledd o'i gymharu â'r £57 y dydd sy'n cael ei wario gan ymwelwyr eraill.[6]

Cymdeithas[golygu]

Weithiau, bydd perchnogion tai haf yn symyd i fyw i'w hail gartref yn barhaol pan fyddent yn ymddeol, yng Nghymru gall hyn fod yn fygythiad i Gymreictod ardal gyda'r cynnydd yn y nifer o drigolion di-Gymraeg.[14][15]

Un enghraifft syfrdanol o'r effaith a gaiff tai haf ar gymuned, yw pentref Derwen-gam[16] a anfarwolwyd yn ddiweddarach mewn cân brotest gan Edward H Dafis. Ar un adeg roedd pob un o dai y pentref yn dai haf. Enghraifft arall yw Berwick, Ardal y Llynnoedd, lle mae 50% o'r tai yn eistedd yn wag trwy bron gydol y flwyddyn.[17] Mae angen balans gofalus i gadarnhau bod digon o ymwelwyr yn cael eu denu i ardal heb greu'r effaith o "Winter ghost town".[8]

Ymryson[golygu]

Bu ymgyrch Llosgi Tai Haf yng Nghymru yn ystod yr 1980au, ac bu ychydig o achosion llys. Roedd y gwrthwynebiad ar y pryd yn canolbwyntio ar y nifer o fewnfudwyr Seisnig a'r effaith negyddol ar y gymuned. Digwyddodd rhywbeth tebyg yn Llydaw yn 2007, pan losgwyd nifer o dai a oedd yn gartrefi i bobl dramor, yn arbennig Prydeinwyr.[18]

Gall y nifer o dai haf mewn ardal gael effaith ar y nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael ar gyfer trigolion lleol. Bydd y pobl sy'n prynu ail gartref fel rheol yn byw mewn ardaloedd dinesig ac yn ennill cyflog uwch, ac felly yn gallu fforddio talu mwy am dŷ na'r trigolion lleol. Wrth i ardal deniadol ddod yn fwy poblogaidd, bydd y nifer o ail dai yn codi ac yn gwthio prisiau tai'r ardal i fyny yn gyffredinol.[17] Ond, mae rhai yn dadlau fod tai haf yn gwneud lles i gymunedau.[4] Yn 2006, mewn cyfweliad gyda'r Financial Times dywedodd y gweinidog tai ar y pryd, Yvette Cooper: "Yn y rhan fwyaf o ardaloedd y wlad mae'r nifer o dai sy'n ail gartrefi yn fach iawn ... nid yw'n ffaith sylweddol sy'n effeithio ar fforddiadwyaeth."[4][19]

Cododd ymryson arall yn 2007, pan ddatganodd y prif weinidog, Gordon Brown, ei fwriad i gael gwared ar y bandiau yn nhreth enillion cyfalaf, gan greu treth gwastad o 18% ar yr elw o fuddsoddiadau. Byddai hyn yn cynnwys yr elw ar werthu ail gartref, roedd y treth ar hyn yn 40% gynt.[20]

Ffynonellau[golygu]

  1. (Saesneg) Self-catering on the rise as recession takes hold. Travel Mole (18 Chwefror 2009).
  2.  Strategaeth Twristiaeth Arfordirol (2008).
  3. (Saesneg) Mark Rowe (9 Ionawr 2005). Self-catering special: Why the British go mad for a place of their own. Independent on Sunday.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 (Saesneg) Matt Weaver (5 Gorffennaf 2006). Cornwall and Scilly Isles top second homes list. The Guardian.
  5.  Tai:Gofod mewn Cartrefi. Parc Cenedlaethol Eryri.
  6. 6.0 6.1 6.2 (Saesneg) The Impact of Second and Holiday Homes in Rural Scotland. Communities Scotland (2 Ionawr 2006).
  7. 7.0 7.1 (Saesneg) Second Homes by parish (Cornwall). Local Intelligence Network Cornwall (Ebrill 2004).
  8. 8.0 8.1 (Saesneg) First time buyers, are they impacted by second home ownership? -Savills. First Rung.
  9. (Saesneg) A summary series of recent research from Communities Scotland. PRECiS (Hydref 2005).
  10. (Saesneg) Brits Top List of Second Home Owners in France. Nvillas (17 Gorffennaf 2008).
  11. (Saesneg) Benjamin S. Weagraff (Rhagfyr 2004). The Contribution of Second Homes to Rural Economies. Prifysgol Talaith Pennsylvania.
  12.  Treth y Cyngor: Gostyngiadau ac Eithriadau. Cyngor Sir Gaerfyrddin.
  13. (Saesneg) Second Homes Council Tax Helps Build 133 Affordable Homes for Local People. Cornwall County Council (Ebrill/Mai 2005).
  14. 14.0 14.1  Tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant. Cymuned (15 Mawrth 2006).
  15.  Baladeulyn, Nant Nantlle Heddiw. Gwefan Swyddogol Dyffryn Nantlle.
  16.  Cofio... : Dyma 1973. BBC.
  17. 17.0 17.1  The Impact of Second Homes and UK Holiday Homes on Communities. Assetsure (21 Medi 2007).
  18. (Saesneg) Fears of unrest in Brittany after English-owned homes attacked. Times On-line (9 Gorffennaf 2007).
  19. "In most parts of the country the number of second homes is extremely small ... it's not a significant fact in affecting affordability."
  20. (Saesneg) Prime Minister Confronted on Second Homes. Devon and Cornwall Liberal Democrats (28 Tachwedd 2007).