1868

Oddi ar Wicipedia

18g - 19g - 20g
1810au 1820au 1830au 1840au 1850au - 1860au - 1870au 1880au 1890au 1900au 1910au
1863 1864 1865 1866 1867 - 1868 - 1869 1870 1871 1872 1873


Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Genedigaethau[golygu | golygu cod]

Marwolaethau[golygu | golygu cod]

Tywydd[golygu | golygu cod]

Tywydd haf 1868 “....yng nghanol llyfr poced Huw Derfel cefais hyn wedi ei ysgrifennu â phensel blwm, am wres mawr yr haf 1868: ‘Y Gwresfesurydd yn 134, ac ychwaneg am amryw ddyddiau olynol yng Nghloddfa y Cae, Gorffennaf 1868. Dywedir fod dau ych i’r un gŵr ym Môn wedi syrthio i lawr yn farw o fewn ychydig i’w gilydd o eisiau dwfr. Mae’r Coed Derw yn gwywo gan y gwres yn y Bryn Llwyd wrth y Chwarel. Delir eogiaid gan y ciperiaid yn Ogwen, a dodir hwy mewn dwfrlestri i’w symud i’r Llynnau mwyaf. Nid oes nemor wlith un noson. Mae’r adar bron wedi tewi canu. Mae nifer mawr o’r chwilod hedegog a elwir yn Hwrli Bwmp ac o’r glöyn byw yn hedeg o gwmpas. Mae rhywbeth dieithr yn y sychder a’r gwres yma. Mae y ffynhonnau oddeutu Pendinas bron wedi sychu. Y gwartheg yn brefu am ddwfr a bwyd, a’r holl wlad â’i glaswellt wedi marw. Glannau Menai a holl wlad Fôn wedi eu llosgi gan eisiau dwfr. Mae llais y llysiau a’r coed yn gweiddi am law, a’r llaid wedi troi yn lludw. Mae llygod mawr a mân wedi cilio o’r chwarel o eisiau dwfr. Caed neidr wedi marw, fel y bernir, o syched yng Nghoed y Dinas, Gorffennaf 25, 1868. Richard Owen, pregethwr o Fôn, yn dweud fod y gwartheg ym Môn yn marw o eisiau dwfr; dywedai hyn ar ei weddi ddoe, Gorffennaf 26, yn Shiloh, Tregarth. Cannoedd o bobl allan o waith yn Ffestiniog a Chloddfa y Cae am nad oes dwfr i yrru’r peiriannau. Y Felin Fawr wedi sefyll. Ogwen bron a sychu. Hen bobl tri a phedwar ugain oed fel Robert Owen, Tyddyn Dicwm, ddim yn cofio y fath sychder. Yr oedd y samons yn marw ac yn drewi’n dost ym Mharc y Penrhyn. Dywed rhai fod dwfr yn chwe cheiniog y chwart yng Nghaergybi y dyddiau diweddaf. Cerid dwfr gyda’r trên o Fangor i Gonwy’. “Yna daw’r nodyn gorfoleddus” meddai Marian: ‘Dyma law braf yn dechrau, Gorffennaf 28, o hanner awr wedi pedwar y pnawn. Diolch, O diolch i’r Arglwydd am dano.’ ”[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ysgrif yn Meddwn I gan Syr Ifor Williams, Chwefror 9, 1941.