Alfred Mond

Oddi ar Wicipedia
Alfred Mond
Ganwyd23 Hydref 1868 Edit this on Wikidata
Farnworth Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, person busnes, diwydiannwr, ariannwr, seionydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Gomisiynydd Gweithfeydd, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadLudwig Mond Edit this on Wikidata
MamFrida Mond Edit this on Wikidata
PriodViolet Mond Edit this on Wikidata
PlantHenry Mond, Ail Farwn Melchett, Eva Isaacs, Mary Angela Mond, Rosalind Jean Nora Mond Edit this on Wikidata

Roedd Alfred Moritz Mond, Barwn 1af Melchett PC, FRS (23 Hydref 186827 Rhagfyr 1930) yn ddiwydiannwr, ariannwr a gwleidydd Prydeinig.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Cafodd Mond ei eni yn Farnworth, Widnes, Swydd Gaerhirfryn yn fab ieuengaf i Ludwig Mond, fferyllydd a diwydiannwr o dras Iddewig a oedd wedi ymfudo o'r Almaen a Frieda, née Lowenthal e'i wraig.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Cheltenham ac yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle bu'n astudio gwyddoniaeth ond methodd ennill gradd.

Aeth i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin a chafodd ei alw i'r bar gan y Deml Fewnol ym 1894.

Gyrfa busnes[golygu | golygu cod]

Wedi gorffen ei gyfnod yn y coleg ymunodd a busnes ei dad, Brunner Mond & Company fel cyfarwyddwr, gan ddod yn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni yn ddiweddarach. Bu hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr ar un o gwmniau eraill ei dad y Mond Nickel Company. Bu hefyd yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau eraill gan gynnwys International Nickel Corporation of Canada, Banc Westminster a'r Industrial Finance Investment Corporation. Daeth ei lwyddiant busnes mawr ym 1926 pan lwyddodd i uno pedwar cwmni cemegol i ffurfio Imperial Chemical Industries (ICI) un o gorfforaethau diwydiannol mwyaf yn y byd ar y pryd. Mond oedd ei gadeirydd cyntaf.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Bu Mond hefyd yn ymwneud â gwleidyddiaeth bu'n eistedd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Dinas Caer 1906-1910, ar gyfer Abertawe 1910-1918 ac ar gyfer Gorllewin Abertawe o 1918 i 1923. Gwasanaethodd yn llywodraeth glymblaid David Lloyd George fel Brif Comisiynydd y Gwaith 1916-1921 ac fel Gweinidog Iechyd (gyda sedd yn y cabinet) o 1921 i 1922. Bu'n cynrychioli Gaerfyrddin 1924-1928 fel Rhyddfrydwr i gychwyn ond gan groesi at y Ceidwadwyr ar ôl anghytuno gyda David Lloyd George dros gynlluniau dadleuol y cyn Brif Weinidog i genedlaetholi tir amaethyddol.[2]

Cafodd Mond ei urddo'n Farwnig ym 1910, a chafodd ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor ym 1913. Ym 1928 cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Melchett, o Landford yn Swydd Southampton.

Seioniaeth[golygu | golygu cod]

Cerflyn o Alfred Mond gan Batia Lichansky, Tel-mond, Israel

Ymwelodd Mond a Palestina am y tro cyntaf yn 1921 gyda Chaim Weizmann ac ar ôl hynny daeth yn Seionydd brwdfrydig, gan gyfrannu arian i'r Jewish Colonization Corporation for Palestine a gan ysgrifennu yn helaeth ar gyfer cyhoeddiadau Seionaidd. Daeth yn Llywydd y Sefydliad Seionaidd Prydain a gwneud cyfraniadau ariannol i achosion Seionaidd. Ef oedd Llywydd cyntaf y Technion ym 1925. Sefydlodd Melchett dref Tel-Mond, sydd yn awr yn Israel. Mae gan Tel Aviv a nifer o ddinasoedd eraill yn Israel strydoedd o'r enw Stryd Melchett er cof amdano.[3]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Etholwyd Mond yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ym 1928 a derbyniodd nifer o raddau er anrhydedd gan Rydychen, Paris a phrifysgolion eraill.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ym 1894 priododd Mond Violet Goetze a bu iddynt un mab, Henry Ludwig, a thair merch. Bu farw Mond yn ei gartref yn Llundain yn 1930

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Industry and Politics (1927)

Imperial Economic Unity (1930)

Cyfeiriadau llenyddol[golygu | golygu cod]

Mae Mond yn cael ei grybwyll yng Ngherdd 1920 gerdd TS Eliot A Cooking Egg

Credir mai Mond yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gymeriad Mustapha Mond, un o'r deg rheolwr y byd yn nofel Aldous Huxley Brave New World (1932).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Biography of MP; 1st Baron Melchett Alfred Mond Liberal Democrat History [1] Archifwyd 2014-08-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 24 Rhagfyr 2014
  2. The Land Question in England, trawsysgrif o ddarlith gan Mond 1913 [2][dolen marw] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
  3. The Blackwell Dictionary of Judaica; Gol: Dan Cohn-Sherbok ISBN 9780631187288
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert Yerburgh
Aelod Seneddol dros Dinas Caer
19061910
Olynydd:
Robert Yerburgh
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Newnes
Aelod Seneddol dros Abertawe
19101918
Olynydd:
dileu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Gorllewin Abertawe
19181923
Olynydd:
Howel Walter Samuel
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ellis Jones Ellis-Griffith
Aelod Seneddol dros Caerfyrddin
19241928
Olynydd:
William Nathaniel Jones