Tel Aviv
Oddi ar Wicipedia
Tel Aviv neu Tel Aviv-Yafo (Hebraeg:תֵּל־אָבִיב-יָפוֹ} , "Bryn y Gwanwyn") yw'r ail ddinas yn Israel o ran poblogaeth. Mae poblogaeth y ddinas ei hun yn 405,300, tra mae poblogaeth yr ardal ddinesig Gush Dan yn 3.15 milwn.
Sefydlwyd y ddinas yn 1909 ar gyrion Jaffa (Hebraeg: יָפוֹ, Yafo), efallai y porthladd hynaf yn y byd. Tyfodd Tel Aviv yn llawer cyflymach na Jaffa, ac yn 1950 cyfunwyd hwy yn un ddinas. Dynodwyd ardal "y Ddinas Wen" yn Tel Aviv yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2003, oherwydd yr adeiladau Bauhaus yma.
Tel Aviv yw prif ganolfan economaidd a diwylliannol Israel, ac mae'n gyrchfan i dwristiaid hefyd oherwydd y traethau.