Cannes
Oddi ar Wicipedia
Cymuned a thref yn ne Ffrainc yw Cannes. Saif ar arfordir y Côte d'Azur, yn département Alpes-Maritimes. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 72,400. Mae y traethau tywodlyd yma yn atyniad mawr i dwristiaid. Daw'r enw "Cannes" o enw Ffrangeg y Gawrgorsen (Arundo donax).
Pentref bychan yn dibynnu ar bysgota oedd Cannes hyd y 19eg ganrif, ond o tua 1830 ymlaen dechreuodd dyfu'n gyflym wrth i ddosbarth uchaf ac yna ddosbarth canol Ffrainc ac ymwelwyr tramor, yn enwedig Saeson, ddechrau adeiladu tai haf yn y cylch. Crewyd y traethau tywodlyd yn fwriadol er mwyn denu ymwelwyr. Cynhelir Gŵyl Ffilmiau Cannes yma yn flynyddol ers 1946. Cynhelir yr ŵyl, ym mis Mai fel fel rheol, yn y Palais des Festivals et des Congrès.
Ceir diwydiannau yma heblaw twristiaeth; mae canolfan dechnoleg Sophia-Antipolis yn commune Valbonne yn y bryniau uwchben Cannes.