Thessaloníci
Oddi ar Wicipedia
Dinas ail fwyaf Gwlad Groeg, a phrif ddinas rhanbarth Macedonia yw Thessaloníci neu Thesalonica[1] (Groeg: Θεσσαλονίκη; ceir hefyd y ffurf Salonika; Thessalonica y Testament Newydd). Mae'n brifddinas y nome llywodraeth leol o'r un enw. Mae'n sedd esgobaeth fetropolitaidd yn Eglwys Uniongred Roeg ac esgobaeth Gatholig.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Mae'r ddinas yn gorwedd ar Fae Salonica ar ffurf ammffitheatr ar lethrau Mynydd Khortiatis. Dioddefodd dân mawr dinistriol ar 5 Awst, 1917. Yn yr hen ddinas, ar lethrau isaf y mynydd, ceir nifer o henebion pwysig o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y ddinas sydd yn cael ei rhestri fel Safle Treftadaeth y Byd oherwydd hynny.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Arc Galerius
- Eglwys Panayia Halkeion
- Eglwys Sant Grigor Palamas
- Tŵr Gwyn
- Tŵr OTE
Enwogion [golygu]
- Sant Mitre (433-455), merthyr
- Stavros Damianides (1941-2001), cerddor
- Katia Dandoulaki (g. 1948), actores
- Nikolas Asimos (1949-1988), cerddor a chyfansoddwr
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 56.
Dolenni allanol [golygu]