Essen
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen yw Essen. Saif yn Ardal y Ruhr, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 583,198.
Sefydlwyd y ddinas yn 845, ond dim ond yn y 19eg ganrif y tyfodd i fod yn ddinas bwysig. Dinistriwyd canol hanesyddol y ddinas gan fomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'n adnabyddus fel canolfan cwmni diwydiannol Friedrich Krupp AG.
Mae Safle Ddiwydiannol y Zollverein yn Essen, sy'n cynnwys hen bwll glo, wedi ei ddynodi'n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.