Mannheim

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Wasserturm ("twr dŵr"), symbol dinas Mannheim

Dinas yn nhalaith ffederal Baden-Württemberg yn yr Almaen yw Mannheim. Gyda phoblogaeth o 327,318, hi yw'r ail ddinas yn y dalaith ar ôl Stuttgart. Saif Mannheim lle mae afon Neckar yn llifo i mewn i afon Rhein. Gyferbyn a Mannheim ar lan arall y Rhein mae dinas Ludwigshafen.

Crybwyllir y ddinas gyntaf yn 766 yn y Codex Laureshamensis fel "Mannenheim". Yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, dinistriwyd y ddinas gan filwyr Tilly yn 1622. Yn y 18fed ganrif roedd traddodiad cryf o gerddoriaeth glasurol yma a elwir yn "Ysgol Mannheim". Ym Mannheim y datbygodd Carl Benz ei fodur cyntaf yn 1886[1]. Dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas gan fomio yn yr Ail Ryfel Byd.

Enwogion o Mannheim[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Bertha Benz Memorial Route