Carl Benz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Carl Benz

Roedd Karl Friedrich Benz, a sillefir fel Carl ar adegau, (25 Tachwedd, 1844, Karlsruhe4 Ebrill, 1929, Ladenburg) yn gynllunydd peiriannau ac yn beiriannydd ceir o'r Almaen. Caiff ei ystyried fel y dyn a ddyfeisiodd y car a bŵerir gan betrol. Gweithiai ei gyfoedion, megis Gottlieb Daimler a Wilhelm Maybach a weithiai fel partneriaid, ar ddyfeisiadau tebyg ac yn ôl y sôn yn ddiarwybod o waith ei gilydd. Serch hynny Benz roddodd batent ar ei waith yn gyntaf ac ar ôl hynny, rhoddodd batent ar yr holl brosesau a wnaeth y modur tanio mewnol yn addas i'w ddefnyddio mewn ceir. Ym 1879 cafodd Benz batent ar gyfer ei fodur cyntaf, a gynlluniodd ym 1878.

Ym 1885, crëodd Karl Benz y Motorwagen, y modur masnachol cyntaf. Cawsai'r modur ei bŵeru gan injan betrol bedwar-stroc, sef ei gynllun ei hun. Derbyniodd batent ar gyfer ei fodur ar y 29ain o Ionawr, 1886. Roedd gan y modur dair olwyn a chawsai ei lywio gan yr olwyn flaen gyda'r teithwyr a'r injan yn cael eu cynnal gan y ddwy olwyn yn y cefn. Mae rhai pobl yn cyfeirio at y car fel y Tri-Car erbyn hyn. Gwerthodd ei fodur cyntaf ym 1888, pedair blynedd cyn unrhyw gynhyrchydd arall.

Ymysg pethau eraill, dyfeisiodd y system rheoli cyflymder sef y sbardun, y taniad gan ddefnyddio gwreichion o'r batri, y plwg tanio, y cydiwr, y newidiwr gêr, y rheiddiadur dwr a'r carbwradur.

Ym 1893, cyflwynodd Benz system lywio troi-ar-echel yn ei fodur Fictoria. Cynlluniwyd y Benz Victoria ar gyfer dau deithiwr a bwriadwyd gwerthu'r modur am gost îs er mwyn annog cynhyrchu'r modur ar raddfa eang.

Ym 1896, cynlluniodd Benz a gosod patent ar y modur tanio mewnol gwastad cyntaf gyda phistonau llorweddol gyferbyn a'i gilydd, a alwyd yn fodur bocsio neu boxermotor yn Almaeneg, cynllun sydd dal i gael ei ddefnyddio mewn rhai ceir rasio sydd â moduron perfformiad uchel.

Dolen allanol[golygu]