Koblenz
Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yn yr Almaen yw Koblenz (Coblenz yn yr hen sillafiad), Saif ar afon Rhein lle mae afon Moselle yn ymuno a hi, 92 km i'r de-ddwyrain o ddinas Cwlen. Roedd y boblogaeth yn 2006 tua 106,000.
Saif Koblenz ar ben gogleddol y rhan o ddyffryn afon Rhein sydd wedi ei gyhoeddi'n Safle Treftadaeth y Byd.
Hanes [golygu]
Sefydlwyd Koblenz yn y cyfnod Rhufeinig, pan sefydlodd Drusus wersyll milwrol yma tua 8 CC dan yr enw Castellum apud Confluentes. Dathlodd y ddinas ei 2000 mlwyddiant yn 1992. Gellir gweld olion pont Rufeinig a adeiladwyd yn 49 OC.
Yn y Canol Oesoedd, cipiwyd y ddinas gan y Ffranciaid. Yma y cynhaliwyd y trafodaethau a arweiniodd at arwyddo Cytundeb Verdun yn 843. Anrheithiwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 882. Yn 1018, daeth yn eiddo Archesgob Trier.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Basilica Sant Castor (eglwys)
- Castell Stolzenfels
- Ehrenbreitstein
- Fernmeldeturm Kühkopf
- Goloring
Enwogion [golygu]
- Anton Diffring (1918-1989), actor
- Valéry Giscard d'Estaing (g. 1926), Arlywydd Ffrainc 1974-81