Würzburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Marienberg a'r hen bont dros afon Main

Dinas yng ngogledd-orllewin talaith Bafaria yn yr Almaen a phrifddinas ardal Unterfranken yw Würzburg. Saif ar Afon Main, ac roedd y boblogaeth yn 134,225 2007.

Ymhlith adeiladau nodedig y ddinas, mae labordy Wilhelm Röntgen lle darganfuwyd Pelydr X, a phalas y Tywysog-Esgob sydd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd. Sefydlwyd yr esgobaeth yn 742 gan Sant Bonifatius. Sefydlwyd y brifysgol, yr hynaf ym Mafaria, yn 1402.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Alte Mainbrücke (pont)
  • Amgueddfa
  • Dinas Marienberg
  • Eglwys gadeiriol
  • Hen Prifysgol
  • Julius Spital
  • Käppele
  • Prifysgol Newydd
  • Residenz (palas yr esgobion)

Pobl o Würzburg[golygu]

  • Thomas Bach (g. 1953), cleddyfwr, Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ers 2013
  • Regina Schleicher (g. 1974), seiclwraig ffordd broffesiynol