Sant Boniffas, Apostl yr Almaenwyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun dychmygolo Sant Boniffas

Cenhadwr yn enedigol o Loegr oedd Sant Bonifas (Saesneg: Boniface, Lladin Bonifacius) ([tua 680 – 5 Mehefin 754) a adnabyddir fel "Apostl yr Almaenwyr".

Ei enw genedigol oedd Winfrid, Wynfrith, neu Wynfryth. Ganed ef rywle yn nheyrnas Wessex, efallai Crediton, Dyfnaint. Teithiodd o amgylch yr Almaen yn efengylu, ac ef oedd Archesgob cyntaf Mainz. Lladdwyd ef yn Frisia yn 754, a cheir ei fedd yn Eglwys Gadeiriol Fulda. Ef yw nawdd-sant yr Almaen.