Ardal y Ruhr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o ardal y Ruhr.

Cytref fwyaf yr Almaen yw Ardal y Ruhr (Almaeneg: Ruhrgebiet), gyda phoblogaeth o tua 5.3 miliwn o bobl ac arwynebedd o tua 4,425km2. Fe'i henwir ar ôl Afon Ruhr, un o lednentydd Afon Rhein, sy'n llifo trwyddi. Mae'n cynnwys cyfres o ddinasoedd sydd wedi ymdoddi i mewn i'w gilydd. Cafodd yr ardal ei llunio yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 19eg ganrif. Dyw'r Ruhr ddim yn cyfateb i unrhyw uned gweinyddol penodol, felly dyw ffiniau'r ardal ddim wedi'u diffinio'n swyddogol. Y prif ddinasoedd yw Bochum, Dortmund, Duisburg, Essen, Gelsenkirchen, Mülheim an der Ruhr ac Oberhausen. Mae'r holl ardal yn cael ei gweinyddu fel rhan o dalaith Nordrhein-Westfalen.

[golygu] Prif ddinasoedd a threfi

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of Germany.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill