Michael D. Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Michael D. Jones

Arloeswr a chenedlaetholwr Cymreig o 'r Bala oedd Michael Daniel Jones (cyn 2 Mawrth 18222 Rhagfyr 1898). Fe sefydlodd Y Wladfa ym Mhatagonia.

Bywgraffiad[golygu]

Cafodd Jones ei eni yn nhŷ Yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn, yn fab i Michael Jones a Mair Hughes, ble mae cofeb iddo heddiw. Bedyddwyd yn y pentref ar 2 Mawrth 1822.[1]

Ar ôl gweithio fel prentis mewn siop yn Wrecsam aeth i astudio yng Ngholeg Caerfyrddin ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Highbury yn Llundain. Daeth yn brifathro Coleg y Bala,[2] fel ei dad o'i flaen, ond ymddiswyddodd gan greu Coleg Bala-Bangor ym 1892.

Aeth i fyw yn Unol Daleithiau America, i astudio gwerinlywodraeth a chaethwasaeth am rai blynyddoedd a sefydlu rhai cymunedau Cymreig yno. Daeth yn weinidog yn Cincinnati, Ohio ym 1848, talaith ble roedd ei chwaer yn byw hefyd. Beth bynnag, ei waith mwyaf oedd sefydlu'r Wladfa yn Patagonia. Meddyliodd fod Patagonia yn lle perffaith i godi cymuned Gymreig am fod neb yn byw yno (heblaw am yr Indiaidd Tehuelche) ac roedd ef wedi gweld fod mewnfudwyr Cymreig wedi colli eu hiaith a'i diwylliant mewn ychydyg iawn o amser ar ôl dod i'r Unol Daleithiau a byw mewn cymunedau lleol. Roedd e'n meddwl fod cael capel, ysgol a senedd ac adeiladu amgylchedd Gymreig yn bwysig iawn i'r mewnfudwyr. Dim ond unwaith y bu ar ymweliad a'r Wladfa, ond ariannodd yr Wladfa tra yn byw a gweithio yng Nghymru. Daeth ei fab, Llwyd ap Iwan, yn ffigwr amlwg yn y Wladfa yn ddiweddarach.

Syniadaeth Michael D. Jones[golygu]

Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru[3]

Rhagdybiaeth crefyddol[golygu]

Er mwyn ceisio gwerthfawrogi arbenigrwydd Michael D. Jones fel meddyliwr gwleidyddol, mae'n rhaid edrych ar y cysylltiadau rhwng gwahanol gymalau ei ddysgeidiaeth. Ni fynegodd ei olygiadau trwy gyfrwng llyfr, ond cymhwysodd hwy at wahanol gwestiynau'r dydd fel yr oeddent yn codi; mae'r Celt, cylchgrawn a fu dan olygyddiaeth Jones, yn ffynhonnell anhepgor i rai sy'n dymuno ymgydnabod â'i athroniaeth. Bu Jones yn gweld ei hunan ym mhopeth a ysgrifennodd fel lladmerydd y weledigaeth Gristnogol, safbwynt y gellid ei ddisgwyl gan brifathro coleg diwinyddol. Credai yn yr hyn a elwir heddiw yn “safbwynt Efengylaidd”. Roedd yn llythrenolwr yn ei agwedd at y Beibl, a credai fod geiriau'r Beibl, yn yr Hen Destament a'r Newydd i'w cymhwyso'n uniongyrchol at amgylchiadau cyfoes. Er cymaint a ysgrifennodd ar bynciau gwleidyddol, ni goleddodd yr “Efengyl Gymdeithasol”. Nid oedd ganddo gydymdeimlad â'r safbwynt y gellid uniaethu Cristnogaeth yn ddi-amod â gwelliannau moesol neu ddiwygiadau cymdeithasol. Y flaenoriaeth iddo ef oedd achubiaeth bersonol.

Wrth i Jones geisio dadansoddi hanfodion bywyd cymdeithasol, aeth yn syth at benodau cyntaf Llyfr Genesis. Ond llawer amlycach yw ei gred fod ffurflywodraeth yr Eglwys yn rhyw fath o batrwm i strwythur cymdeithasol yn gyffredinol. Daliai Jones athrawiaeth yr Annibynwyr am yr Eglwys ac y mae dwy wedd, arwyddocaol iddo ef ar honno: a) sofraniaeth y gynulleidfa unigol tan Grist a'r gred ei bod yn rhydd iddi wrth ymyrraeth gan unrhyw gorff arall, a b) fod yr awdurdod yn gorffwys yng nghorff aelodau'r eglwys, nid mewn unrhyw swyddogion y tu mewn neu'r tu allan iddi. O gymhwyso hyn at y genedl, daliai fod pob cenedl wedi ei bwriadu i fwynhau annibyniaeth a bod yr awdurdod yn gorffwys yng nghorff y dinasyddion. Roedd JOnes yn naturiol yn rhoi pwyslais ar natur eglwys, oherwydd yn y pwnc hwnnw yr oedd gwreiddyn chwerwder rhyngddo a Dr. John Thomas. Er hynny, nid cysylltiad damweiniol yn ei achos ef oedd hwnnw rhwng trefn eglwys a threfn cymdeithas. Meddai, “Mae cysylltiad glos rhwng ein syniadau ar drefn eglwysig a'n credo wleidyddol...”

Y Ddeddf Foesol[golygu]

Tant y mae'n ei daro'n gyson trwy'r blynyddoedd yw mai un ddeddf foesol sydd. Gwrthodai'r ddysgeidiaeth fod un rheol ar gyfer unigolion yn eu bywyd preifat, a rheol wahanol iddynt yn eu bywyd cyhoeddus. Yr un safonau moesol sy'n clymu unigolion a chenhedloedd. Wrth iddo ddatblygu'r thema hon yn ei ysgrifau y gwelir gliriaf ei ddibyniaeth ar oraclau proffwydi'r Hen Destament yn erbyn Israel. Un o ganlyniadau cymryd y safbwynt hwn oedd condemnio deddfau seneddol nad oeddent yn parchu'r deddf foesol – fel deddfau gorfodaeth Iwerddon. “Nid cyfraith”, meddai, “yw sylfaen moesoldeb, ond dylai moesau pawb fod wedi eu sylfaenu ar foesoldeb tragwyddol a digyfnewid, ac nid ar gyfreithiau y gellir eu newid yn ôl mympwyon dynion.”

Canlyniad arall yr argyhoeddiad hwn oedd ei ymosodiadau niferus ar y rhagrith oedd yn gwreiddiol yn y gred fod moesoldeb cyhoeddus yn wahanol i foesoldeb preifat. “Mae gan y Seison ddwy reol bywyd, un i bersonau unigol, ac un arall hollol wahanol i'r Llywodraeth.” ... Yr un ymateb sydd ganddo i'r cynnwrf poblogaidd ynglyn ag erchyllterau “Sion y Rhwygwr” (Jack the Ripper) ym 1888. Beth yw'r gwahaniaeth moesol rhwng erchyllterau Sion y Rhwygwr yn Llundain a thrais y llywodraeth yn Iwerddon? ... Na! - i Jones yn y Beibl “un rheol o foesoldeb” sydd i genhedloedd ac unigolion ac y mae'r Deg Gorchymyn i'w cymhwyso at genhedloedd hefyd.

Ymreolaeth o'r pwysigrwydd mwyaf[golygu]

Mae Cymru'n genedl. Treuliodd Jones ei oes i geisio dyfnhau; ymwybyddiaeth genedlaethol ymhlith y Cymry. Dyma'r hyn a ysgogai ei lafur mawr gyda'r Wladfa yn Ariannin. A dyma hefyd y gwahaniaeth mawr rhyngddo a radicaliaid o ysgol David Rees, Lanelli, S.R., a J.R. Daw'r pwynt yn amlwg yn oerfelgarwch Jones at Henry Richard. Yn wir, cyn gynhared â 1884 yr oedd yn dal mai dysgeidiaeth Richard oedd y dylai'r Cymry “daflu ymaith bob gwahaniaeth”, ac “ymdoddi i John Bull” am “nad oes gan y Cymro yn awr ddim achos cwyno.”'

Ei gyfraniad personol arbennig i'r drafodaeth wleidyddol yng Nghymru oedd mynnu rhoi ymreolaeth yn gyntaf. Yn wir, yr oedd ysgrifenwyr Y Celt yn brolio'r papur am roi lle amlwg i ymreolaeth. Fel y dywedodd Jones “Mae y Celt o'r dechrau wedi gosod lle amlwg i faner Ymreolaeth, ac yn neilltuol ymreolaeth i Gymru”. Y gwir yw, nad oes bron sôn o gwbl am y pwnc yng nghyfnod S.R. fel y golygydd oherwydd nid oedd y mater o ddiddordeb iddo ef. Ond pan ddaeth Pan Jones, awdur cofiant enwog Jones, yn olygydd ym 1881, esboniwyd polisi'r Celt mewn datganiad sy'n “llawenychu fod y Sais balch teyrngarol o'r diwedd wedi cydnabod yn gyhoeddus y priodoldeb o ganiatáu deddfwriaeth neilltuol i Gymry” ac ychwanega, “Nid oes ond un sefyllfa a all fod yn well na hyn, sef cael llywodraeth Gartrefol i Gymru – eu Deddfwrfa eu hunain i'r Cymry, yn yr Undeb Prydeinig.” '

Pwyslais arbennig Jones oedd fod yn rhaid rhoi ymreolaeth i Gymru ar frig y rhaglen wleidyddol. Wrth ddadlau tros yr argyhoeddiad hwn ym 1887, awgrymodd Jones pa ddylanwadau a'i creodd... “Athrawiaeth Kossuth, cenedlgarwr mawr Hwngari, oedd, hawl pob cenedl i reoli ei hunan.”

Wrth i'r 1880au fynd ymlaen, ai Jones yn fwy diamynedd gyda'r dadlau yng Nghymru ynglŷn â pha fesurau y dylid eu rhoi ar flaen y rhaglen wleidyddol. Iddo ef, roedd rhaid mynd at wreiddyn y mater, credai mai ffolineb oedd cynnal ymgyrchoedd yn galw am deddfau unigol ar y Tir, y Ddirwest, y Ddegwm, neu Addysg, heb herio cynsail gwaelodol y drefn wleidyddol; sef fod gan Loegr hawl foesol i ddeddf tros Gymru. Yr oedd yn bur bigog ynglŷn â'r ffordd yr oedd datgysylltiad yn cael ei wneud yn brif bwnc. Ymosododd yn chwyrn ar y Rhyddfrydwyr a gyfarfu yn y Rhyl yn nechrau 1887 a chynllunio i roi blaenoriaeth i'r pwnc hwnnw.

Iaith yn hanfodol i genedligrwydd[golygu]

Roedd y frwydr am Ymreolaeth yn lawer mwy i Jones na moddion i hwyluso llywodraeth neu i leddfu cwynion pobl un gornel o Brydain. Yr oedd a wnelo hi â bywyd, diwylliant, a grymuster moesol cymdeithas hanesyddol. Roedd yn ymwneud hefyd â gwareiddio a disgyblu grym oherwydd roedd gan Jones ymwybod byw iawn â'r llanast a'r tristwch y mae'r byd wedi eu ddioddef trwy'r canrifoedd o ganlyniad i gamddefnyddio grym.

Y mae'n ofalus iawn i ymwrthod ag unrhyw awgrym mai endid hilyddol yw cenedl. Y mae gwreiddiol llawer Cymro yn Lloegr ac y mae'r elfen Geltaidd yn rhan nid dibwys o waddol Lloegr hithau. Ynghanol yr holl bethau llymion a ddywedodd am Saeson, y mae'n ofalus iawn i esbonio at bwy'n union y mae'n anelu – fel arfer, at y “pendefigion”, y dosbarth llywodraethol. Un o brif gynheiliaid cenedligrwydd yn ei olwg yw iaith. Ysgrifennodd lawer ar y pwnc, ac y mae'n ddiddorol gynifer o'i sylwadau sy'n cael eu datblygu gan Emrys ap Iwan.

Ac felly ni flinai bwyso ar ei ddilynwyr ddefnyddio'r Gymraeg ymhob man posibl – yn eu cartrefi, yn eu siopau, ar arwyddion cyhoeddus, yn yr ysgolion ac yn y Cynghorau Sir. A'i'n neilltuol flin wrth weld pobl yn bradychu'r iaith. Er edmygu'r gweithgarwch mawr oedd ynglŷn â'r Eisteddfod Genedlaethol, teimlai fod Eisteddfod Bangor “yn eithafol o Seisnig a bod Sais a bonedd-addoliad cyfoglyd yn yr hyrwyddwyr.” Yr oedd yn ddig iawn wrth Gymdeithas yr Iaith [nid yr un mudiad a sefydlwyd yn yr 1960au] am ddadlau y gellid dysgu Saesneg yn gynt trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr oedd am i'r Gymdeithas yn hytrach ymroi ati i sicrhau statws cyflawn i'r iaith ymhob cylch. Ac, wrth gwrs, yr oedd y bobl ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr, a oedd wrthi'n codi capeli Saesneg yn dod yn drwm o dan yr ordd. A chyhuddai Weinidogion o alltudio'r iaith oddi ar eu haelwydydd a'u gwragedd yn cychwyn dosbarthiadau Saesneg yn yr Ysgol Sul.

Dadansoddiad o Imperialaeth[golygu]

Agwedd arall ar genedlaetholdeb radical Jones oedd ei feirniadu llym ar imperialaeth a'r effaith a gafodd ar genhedloedd gorchfygedig. Wrth drafod y pynciau hyn y mae ar ei fwyaf llym a digymrodedd. Ac yr oedd gofyn cryn ddewrder i gyhoeddi golygiadau mor feirniadol pan oedd imperialaeth Lloegr yn cyrraedd ei phenllanw a'r Cymry hwythau'n penfeddwi ar ogoniannau'r ymerodraeth na fentrau'r haul fachludo arni.

Bu'n draddodiad ymhlith Protestaniaid i ddeall y cyfeiriadur Beiblaidd at “Babilon Fawr” fel proffwydoliaethau yn erbyn Eglwys Rufain. Gwrthododd Jones yr esboniad hwn. “Wrth Babilon Fawr y deallaf fi, llywodraeth unbenaethol a phendefigol yn ei gwahanol agweddau, wedi ei seilio ar drais a gormes y drefn filwrol.” O gymryd y safbwynt hwn, gwêl y datganiadau ffyrnig yn y Beibl yn erbyn Babilon, fel geiriau i'w cymhwyso at y frwydr fodern yn erbyn imperialaeth.

Roedd Jones yn pwysleisio fod yn rhaid i wlad rydd ddefnyddio “grym i osod troseddau i law”. Mae'n amhosib i gymdeithas ffynnu mewn anhrefn a dylai dinasyddion cyfrifol fod yn deyrngar i'w llywodraeth oherwydd y “gormeswyr gwaethaf o bawb yw dynion dilywodraeth”. Y drychineb yw fod awenau llywodraeth yn disgyn i ddwylo pobl ormesol. Yr oedd yn arwyddocaol fod y Diafol wedi ceisio temtio Iesu Grist trwy gynnig teyrnasoedd y ddaear iddo oherwydd y “Diafol bia bob llywodraeth ag sydd wedi ei seilio ar ormes a thywallt gwaed.” A gwrthododd Iesu ddefnyddio trais a rhyfel i sefydlu ei deyrnas. O ganlyniad, y mae polisi'r Ellmyn yr Affrica am y pegwn â dysgeidiaeth Iesu, yn ymestyn eu dylanwad trwy'r “fwled a'r Beibl” gan honni eu bod yn lledaenu Cristnogaeth. Ac nid yw gweithredoedd llywodraeth Lloegr yn Affrica fymryn gwell chwaith.

Credai fod imperialaeth yn ei hanfod yn anfoesol ac nid yw'n rhyfedd ei bod yn esgor ar bob math o ddrygioni, oherwydd, “os yw ymreolaeth yn dda i Loegr, gellid meddwl fod yr un peth yn llesol i bob gwlad.” Mae Jones yn glir yn ei feddwl beth yw'r egwyddor foesol sylfaenol yn y cyswllt hon: “Credaf finnau fod gwirionedd yn ddigyfnewid fel y Duwdod, ym mhob lle ac amser, ac mai cyfiawnder yw i bob cenedl gael llywodraethu ei hunan. Mae gwneud caethion darostyngedig o genhedloedd yn drosedd yn erbyn dynoliaeth, fel gwneud caethion o bersonau, a chredaf mai llywodraeth oresgynnol yw Babilon Fawr y Beibl, gyda'r hon y puteiniodd holl frenhinoedd y ddaear...” Felly, yn enw moesoldeb, dynoliaeth ac addysg y Beibl, nid oes gan y Cymry ddewis ond gwrthwynebu imperialaeth hyd eithaf eu gallu; dyna oedd cri Jones.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Evan Pan Jones, Cofiant Michael D. Jones (1903).
  • Dafydd Tudur, 'The Life, Thought and Work of Michael Daniel Jones (1822-1898)', Traethawd PhD Prifysgol Cymru, Bangor, 2006.
  • Gweler hefyd y casgliad o erthyglau Michael D. Jones a'i Wladfa Gymreig, gol. E. Wyn James a Bill Jones (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2009).
  • E. Wyn James, ‘Michael D. Jones and His Visit to Patagonia in 1882’, yn Los Galeses en la Patagonia V, gol. Fernando Coronato & Marcelo Gavirati (Porth Madryn, Chubut, Ariannin: Asociación Punta Cuevas, Asociación Cultural Galesa de Puerto Madryn & Centro de Estudios Históricos y Sociales de Puerto Madryn, 2012). ISBN 978-987-24577-3-0. Yn Sbaeneg ac yn Saesneg.

Cyfeiriadau[golygu]