Walter Davies (Gwallter Mechain)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg, beirniad eisteddfodol, golygydd, hynafiaethydd a chlerigwr Anglicanaidd Cymreig oedd Walter Davies (15 Gorffennaf 17615 Rhagfyr 1849), a oedd yn adnabyddus iawn yn ei ddydd wrth ei enw barddol Gwallter Mechain.

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Walter Davies ym mhlwyf Llanfechain yn yr hen Sir Drefaldwyn (gogledd Powys) ar 15 Gorffennaf, 1761. Aeth i Brifysgol Rhydychen yn nechrau 1792 a graddiodd gyda BA yn hydref 1795. Ar ôl cyfnod byr yn is-geidwad Amgueddfa'r Ashmolean, cafodd ei urddo'n ddiacon yn Llanelwy (1795) ac yna'n offeiriad yn 1796. Yn 1799 priododd Mary, gweddw Rhys Pryce o Feifod; cawsant bedwar o blant. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt lle enillodd ei radd MA yn 1803.

Cafodd bersoniaeth Llanwyddelan yn 1803 ac yna aeth yn ficer ym mhwlyf Manafon, Sir Drefaldwyn, ar 7 Gorffennaf 1807, lle arosodd am 30 mlynedd. Yn ogystal â chyflawni'r rhan fwyaf o'i waith llenyddol tra yno, gwnaeth ddau arolwg pwysig o amaethyddiaeth yng Nghymru ar ran y llywodraeth (cyheoddwyd 1810, 1814). Cynorthwyodd Samuel Lewis i baratoi ei Topographical Dictionary of Wales enwog (cyhoeddwyd 1833). Symudodd i blwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y 18 Tachwedd 1837. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849 a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf.

Gwaith llenyddol[golygu]

Yn ei ieuenctid ymddiddorai Gwallter Mechain yng ngwaith y beirdd gwlad traddodiadol yn ei fro a chyfansoddodd sawl carol plygain yn y dull traddodiadol. Cyfansoddodd nifer o gerddi a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol ar ôl ei farwolaeth. Roedd ganddo feistrolaeth dda ar ffurfiau barddonol ond braidd yn sych y mae llawer o'i gerddi mawr i ddarllenwyr heddiw, ond mae rhai o'i englynion yn ffraeth. Enillodd sawl tlws eisteddfodol, yn cynnwys y rhai a enillodd yn eisteddfodau a drefnwyd gan y Gwyneddigion yn Y Bala (Eisteddfod Y Bala 1789), Corwen (Eisteddfod Corwen 1789) a Llanelwy (Eisteddfod Llanelwy 1790), ond roedd nifer o'i gyd-feirdd yn amau twyll oherwydd gohebiaeth gyfrinachol rhwng Gwallter ac Owain Myfyr (profwyd hyn yn wir yn ddiweddarach).

Mae un o'i gerddi, 'Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816', o weth hanesyddol fel disgrifiad o effaith haf gwlyb 1816, a achoswyd gan ffrwydrad Mynydd Tambora yn Indonesia yn 1815, ar amaethyddiaeth Cymru.

Fel golygydd gwnaeth gyfraniad pwysig i fywyd llenyddol hanner cyntaf y 19eg ganrif. Roedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Y Gwyliedydd (1822-38) a chyfrannodd nifer o ysgrifau Saesneg ar hanes lleol Powys a rhannau eraill o Gymru i gylchgronau Cymry Llundain. Golygodd waith rai o' feistri'r gorffennol, e.e. gwaith Huw Morys (Eos Ceiriog) (1823) a golygiad o gerddi Lewys Glyn Cothi (1837, gyda John Jones (Tegid)).

Ffynonellau[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith Gwallter Mechain[golygu]

  • D. Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, 2 gyfrol (Caerfyrddin, 1868)

Cefndir[golygu]