Isaac Foulkes

Oddi ar Wicipedia
Isaac Foulkes
FfugenwLlyfrbryf Edit this on Wikidata
Ganwyd9 Tachwedd 1836 Edit this on Wikidata
Llanfwrog Edit this on Wikidata
Bu farw2 Tachwedd 1904 Edit this on Wikidata
Rhewl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyhoeddwr, llyfrwerthwr, argraffydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Yr Iolo Manuscripts, cyhoeddwyd gan Isaac Foulkes yn 1848.

Newyddiadurwr, awdur a chyhoeddwr oedd Isaac Foulkes (Llyfrbryf, 9 Tachwedd 18362 Tachwedd 1904)[1].

Ganed ef yn Llanfwrog, Rhuthun, Sir Ddinbych lle bu'n brentis cysodydd. Yn 1854 aeth i Lerpwl cyn gorffen ei brentisiaeth lle bu'n gweithio fel cysodydd yn swyddfa'r Amserau. Yn 1862 sefydlodd ei wasg ei hun a hynny yn Lerpwl lle roedd cymuned sylweddol o Gymry Cymraeg o siroedd y Gogledd.

Ef oedd perchennog a golygydd cyntaf Y Cymro, a ddechreuodd ar 22 Mai 1890.

Bu farw yn y Rhewl yn 1904.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Detholiad yn unig yw hwn o'r llyfrau niferus a gyhoeddwyd gan Isaac Foulkes:

  • Cymru Fu. Straeon a chwedlau.[2]
  • Enwogion Cymru (1870)
  • Rheinallt ab Gruffydd (1874). Rhamant am Rheinallt ap Gruffudd (15eg ganrif)
  • Y Ddau Efell, neu Llanllonydd (1875)
  • Daniel Owen. Y Nofelydd (1903). Cofiant Daniel Owen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "FOULKES, ISAAC ('Llyfrbryf'; 1836-1904), perchennog newyddiadur a chyhoeddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-05-08.
  2. Foulkes (Llyfrbryf), Isaac (1862). Cymru Fu . Wrecsam: Hughes a'i Fab.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: