Culhwch ac Olwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mytholeg Geltaidd
Coventina
Amldduwiaeth Geltaidd

Duwiau a duwiesau Celtaidd

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Chwedl Gymraeg Canol sy'n adrodd hynt a helynt yr arwr Culhwch yn ei ymgais i ennill llaw y forwyn Olwen yw Culhwch ac Olwen. Dyma'r chwedl Gymraeg gynharaf am lys y brenin Arthur sydd ar glawr heddiw. Mae'n chwedl drwyadl Gymreig a Cheltaidd heb arlliw o'r Arthur diweddarach a gafodd ei ramanteiddio a'i droi'n ffigwr Cristnogol sifalriaidd yn nwylo'r Ffrancod a'r Saeson.

Llawysgrifau[golygu]

Ceir yr unig destun cyfan o'r chwedl yn Llyfr Coch Hergest (tua diwedd y 14eg ganrif. Ceir copi anghyflawn yn Llyfr Gwyn Rhydderch (tua chanol y 14eg ganrif) hefyd. Mae peth amrywiaeth rhwng y ddau destun sy'n brawf o fodolaeth fersiwn neu fersiynau cynharach.

Dyddiad[golygu]

Mae nodweddion ieithyddol y chwedl yn gosod ei chyfansoddi yng nghyfnod Canu'r Bwlch neu'r Gogynfeirdd cynnar. Mae 'na gryn fwlch felly rhwng Culhwch ac Olwen a gweddill y chwedlau Cymraeg Canol. Ceir nifer o gyfatebiaethau rhwng iaith y chwedl ac iaith cerddi Llywarch Hen a rhai o destunau Llyfr Du Caerfyrddin. Awgryma'r dystiolaeth iddi gael ei chyfansoddi dim hwyrach na tua 1100 ac mae hyn yn amcangyfrif ceidwadol. Mae ei deunydd yn hŷn o lawer.

Crynodeb o'r chwedl[golygu]

Culhwch ac Olwen yn llys Ysbaddaden

Yn y chwedl mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder y Brenin Arthur yng Nghelliwig yng Nghernyw i gael ei gymorth a'i gynghor.

Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys Cai a Bedwyr, yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio Fabon fab Modron a hela'r Twrch Trwyth yn haeddianol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.

Ceir nifer fawr iawn o gymeriadau yn y chwedl. Cymeriadau bwrlesg sy'n cael eu rhestru yn unig yw llawer ohonyn nhw. Ymhlith y cymeriadau pwysicaf y mae Glewlwyd Gafaelfawr (porthor llys Arthur), Custennin Heusor, Gwalchmai, Menw fab Teirgwaedd, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Y Widdon Orddu, Gwyn ap Nudd, Gwrnach Gawr a'r Anifeiliaid Hynaf.

Llyfryddiaeth[golygu]

Y testun[golygu]

  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)

Ceir testun diplomatig yn yr orgraff wreiddiol yn nwy gyfrol J. Gwenogvryn Evans,

  • The Text of the Mabinogion... from the Red Book of Hergest (Rhydychen, 1887)
  • The White Book Mabinogion (Pwllheli, 1907; argraffiad newydd gol. gan R.M. Jones, Llyfr Gwyn Rhydderch, Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)

Astudiaethau[golygu]

  • Idris Foster, 'Culhwch ac Olwen' yn, Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Caerdydd, 1974)