Tacitus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r erthygl yma'n ymdrin a Tacitus yr hanesydd. Am yr ymerawdwr Rhufeinig o'r drydedd ganrif gweler Tacitus (ymerawdwr).

Tacitus

Hanesydd Rhufeinig a llenor yn yr iaith Ladin oedd Gaius Cornelius Tacitus neu Publius Cornelius Tacitus (c.56 - 117 O.C.). Credir iddo gael ei eni yn nhalaith Gallia Narbonensis (de Ffrainc heddiw), ond nid oes sicrwydd am hynny. Mae'n bosibl mae asiant imperialaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl a oedd yn gyfrifol am dalu llengwyr Rhufeinig byddin y Rhein oedd ei dad. Cafodd Tacitus ei eni tua 55 O.C., yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Claudius. Bu marw tua diwedd teyrnasiad Trajan (98 - 117) neu'n fuan ar ôl hynny. Chwareai rhan bur bwysig ym mywyd cyhoeddus ei oes ond fe'i cofir yn bennaf am ei gyfraniad arbennig i lên hanes.

Gwaith Tacitus[golygu]

Mae pump o weithiau Tacitus wedi goroesi (tri yn gyfan, dau yn rhannol).

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith Tacitus mewn cyfieithiad[golygu]

  • Michael Grant (cyf.), Tacitus: On Imperial Rome (Llundain, 1956 ac wedyn). Yr Annales. Clasur o gyfieithiad Saesneg yn nghyfres Penguin.
  • John Owen Jones (cyf.), O Lygad y Ffynnon (Y Bala, 1899). Cyfieithiad Cymraeg darllenadwy o rannau o'r Agricola (a gweithiau gan hanesyddion eraill).
  • H. Mattingly (cyf.), Tacitus: On Britain and Germany (Llundain, 1948 ac wedyn). Yr Agricola a'r Germania yn llyfrau Penguin.
  • A.O. Morris (cyf.) Cofiant Agricola, Llywodraethwr Prydain / Cornelius Tacitus (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1974). ISBN 0-7083-0560-1