Agricola

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Agricola a godwyd yn Nghaerfaddon yn 1894
Gweler hefyd Agricola (gwahaniaethu).

Milwr a gwladweinydd o Rufeiniad oedd Gnaeus Julius Agricola neu Agricola (13 Mehefin 40 - 23 Awst 93 O.C.), a aned yn nhref Forum Julii yn nhalaith Gallia Narbonensis (Fréjus heddiw, ym Mhrofens, de Ffrainc). Ysgrifenodd ei fab-yng-nghyfraith Tacitus fywgraffiad canmoliaethus ar Agricola, y De vita Iulii Agricolae (neu'r Agricola). Dyma brif ffynhonnell ein gwybodaeth amdano, ynghyd â'r Annales (llyfr arall gan Tacitus).

Gwasanaethodd ym Mhrydain, Asia ac Aquitania gan ennill bri iddo'i hun. Cafodd ei ethol yn gonswl yn 77 O.C. a dychwelodd i Brydain fel llywodraethwr ar y dalaith newydd yn 77 neu 78, yn olynydd i Sextus Julius Frontinus. Agricola oedd yn bennaf cyfrifol am osod awdurdod Rhufain ar y llwythau Celtaidd ym Mhrydain a oedd yn dal i wrthsefyll y trefedigaethwyr Rhufeinig. Ychydig cyn iddo gyrraedd Prydain fel llywodraethwr yr oedd yr Ordoficiaid yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru wedi codi mewn gwrthryfel ac wedi llwyr ddinistrio corff o ŵyr meirch. Arweiniodd Agricola ymgyrch yn eu herbyn yn syth ar ôl cyrraedd Prydain, a'u llwyr orchfygu. Yn ôl Tactitus, lladdodd bob copa gwalltog o'r llwyth, ond o ystyried natur tiriogaeth y llwyth yma prin y byddai hynny'n bosibl.

Yn 80 ac 81 ymestynnodd reolaeth Rhufain i dde'r Alban a gorchfygodd byddin Calgacus ym Mrwydr Mons Graupius. Ar ôl y fuddugoliaeth honno hwyliodd â'i lynges fechan oddi amgylch arfordir gogleddol Prydain, gan brofi am y tro cyntaf ei bod yn ynys. Ond enynnodd llwyddiant Agricola genfigen Domitianus a chafodd ei alw yn ôl i Rufain yn 84.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • H. Mattingly (cyf.), Tacitus: On Britain and Germany (Llundain, 1946 ac wedyn). Ceir yr Agricola yn rhan gyntaf y llyfr, a bywgraffiad.