Bathwyd yr enw Matière de Bretagne gan Jean Bodel yn ei gerdd Hen Ffrangeg La Chanson des Saisnes (tua 1200), a rennid barddoniaeth ramantaidd ac epig Ewrop yn dri thraddodiad: Mater Rhufain, sef rhamantau'r Henfyd, Cylch Caerdroea, hen farddoniaeth Ladin, a chwedlau Alecsandraidd; Mater Ffrainc, hynny yw chansons de geste ac arwrgerddi am oes Siarlymaen; a Mater Prydain, sy'n cynnwys rhamantau Arthuraidd a cherddi eraill am serch llys a sifalri. Er bod y dull hwn o gategoreiddio barddoniaeth ganoloesol yn boblogaidd, nid yw'n cynnwys pob rhamant ac arwrgerdd a genid gan feirdd yr Oesoedd Canol. Bellach, cynhwysir sawl rhamant Saesneg Canol yn y corff a elwir Mater Lloegr.
Cyfansoddwyd barddoniaeth Mater Prydain ar ddwy ffurf lenyddol: y lais neu gerddi Llydewig, a'r rhamant llys. Prif awdur y lais Eingl-Normaneg ydy Marie de France, a ysgrifennodd yn Lloegr yn y 1170au. Cerddi traethiadol byrion ydynt sy'n ymwneud â serch, ymladdfeydd, anturiaethau, hud a lledrith, a'r tylwyth teg ac yn tynnu'n gryf ar lên gwerin Celtaidd a contesstorïwyr Ffrangeg Llydaw. Lleolir y straeon hyn yn Llydaw, Cernyw, a Lloegr, ac ymhlith y straeon mae Trystan ac Esyllt a Lanval, un o farchogion llys Arthur. Y prif ramantau Arthuraidd ydy pum rhamant Chrétien de Troyes a ysgrifennwyd yn y 1170au a'r 1180au, sy'n cyflwyno Mater Prydain ar ei ffurf fwyaf ddatblygedig.[1]