Serch llys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Genre lenyddol arbennig a gysylltir â'r cysyniad o sifalri yn yr Oesoedd Canol yw serch llys (Ffrangeg: amour courtois; Ocsitaneg fin amor). Er iddo gael ei gysylltu'n bennaf â llenyddiaeth, dylanwadodd serch llys ar sawl agwedd arall o fywyd yr Oesoedd Canol hefyd. Er bod rhai haneswyr yn amau dilysrwydd y term - a fathwyd yn y 19eg ganrif - erbyn heddiw, mae'n aros yn derm cyfleus a ddefnyddir yn gyffredin.

Marchog yn derbyn ei arfau gan ei Arglwyddes, Codex Manesse

Math o serch rhamantaidd a gawsai ei foli, ei feithrin a'i ddyrchafu yn y llysoedd brenhinol a phlasdai uchelwyr yw serch llys. Daw i'r golwg fel confensiwn am y tro cyntaf yn ardal Profens (de Ffrainc) yn gynnar yn y 12fed ganrif, ond mae ei wreiddiau'n hŷn a cheir cysyniad cyffelyb yng ngwaith rhai beirdd Arabaidd cynharach, yn enwedig y Mwriaid yn Andalucia. Credir fod barddoniaeth y bardd Rhufeinig Ofydd yn ddylanwad pwysig arall. Roedd yn cael ei fynegi mewn rhyddiaith a barddoniaeth.

Ymledodd o Brofens ar draws gorllewin Ewrop, i wledydd Prydain, gogledd Ffrainc (gwaith y Trouvères a Chrétien de Troyes er enghraifft), yr Almaen (y Minnesänger) a'r Eidal (y Stilnovisti a gwaith Dante) a thu hwnt. Yng Nghymru gwelir ei ddylanwad amlycaf ar rai agweddau o waith Dafydd ap Gwilym ac eraill o'r cywyddwyr ac yn y Tair Rhamant. Yn yr olaf, ac yn y rhamantau Arthuraidd yn gyffredinol, gwelir cydblethu serch llys a nodweddion Celtaidd.

Ceir enghreifftiau da o gonfensiynau serch llys yng nghanu y Trwbadwriaid a chafodd ddylanwad ar Gymru hefyd, o gyfnod Beirdd y Tywysogion ymlaen. Traddodiad arall a geir yn rhai o'r cerddi poblogaidd gan y clerici vagantes ("clerigwyr crwydrol" neu Goliardaid), er bod olion dylanwad serch llys, wedi ei wrthdroi gan amlaf, i'w gweld yno hefyd.

Gweler hefyd[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • P. Dronke, Medieval Latin and the Rise of European Love-Lyric (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1968). Yr astudiaeth glasurol.
  • Bernard O'Donoghue (gol.), The Courtly Love Tradition (Gwasg Prifysgol Manceinion, 1982)