Trystan ac Esyllt

Oddi ar Wicipedia
Trystan ac Esyllt, gan Edmund Blair Leighton.

Chwedl o'r Canol Oesoedd a gysylltir â'r Brenin Arthur yw Trystan ac Esyllt.

Ceir gwahanol fersiynau o'r chwedl, ond yn y fersiwn fwyaf cyffredin, roedd Trystan yn nai i Arthur. Roedd Trystan yn danfon Esyllt, merch Hywel fab Emyr Llydaw mewn rhai fersiynau, o Iwerddon i Gernyw, lle roedd i briodi'r brenin March. Yn ystod y fordaith, yfodd Trystan ag Esyllt ddiod yr oedd mam Esyllt wedi ei baratoi ar gyfer y briodas, a syrthiasant mewn cariad â'i gilydd.

Wedi i'r brenin Mawrth ddarganfod hyn, mae'r cariadon yn ffoi i Fforest Broseliawnd yn Llydaw. Yn ddiweddarach, clwyfir Trystan yn angheuol mewn brwydr yn erbyn March. Mae'n gyrru am Esyllt i'w iachau, ond erbyn iddi gyrraedd mae ef eisoes wedi marw.

Cyfansoddodd y bardd Normanaidd Béroul, a flodeuai yn y 12g, y gerdd Tristan, fersiwn Eingl-Normaneg o chwedl Trystan ac Esyllt sydd wedi goroesi fel testun anghyflawn a darniog o tua 3000 llinell; dyma'r testun cynharaf o'r fersiwn "werinol" o'r chwedl yn llenyddiaeth y Ffrancod a'r Eingl-Normaniaid. Cynrychiolir y fersiwn "llysol" gan y drylliau o gerdd Thomas o Brydain). Ysgrifennodd yr Almaenwr Eilhart von Oberge ymdriniaeth o'r testun yn Almaeneg, ac mae nifer o ddigwyddiadau o fersiwn Béroul yn ail-ymddangos yn y testun diweddarach a elwir yn 'Chwedl rhyddiaith Trystan'.

Ceir llawer o gyfeiriadau at y chwedl yn Gymraeg, er enghraifft yn y Trioedd ac yng ngweithiau'r Gogynfeirdd, a cheir cyfeiriad at Bledri ap Cydifor (fl. hanner cyntaf y 12g) fel awdur un fersiwn cynnar o'r hanes, ond nid oes fersiwn Gymraeg o'r chwedl ei hun wedi goroesi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]