Efnysien

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad chwedlonol yn yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi yw Efnisien, sef chwedl Branwen ferch Llŷr. Mae Efnisien yn fab i Penarddun ac Euroswydd ac felly'n frawd gefaill i Nisien. Yn ogystal, mae'n hanner brawd i Fendigeidfran a'i chwaer Branwen a Manawydan. Yn y chwedl mae Efnisien yn gymeriad aflonydd sy'n cynhyrfu'r dyfroedd ar bob achlysur.

Efnisien yn torri'r pair (llun gan T. Prytherch)

Daw Matholwch brenin Iwerddon i ofyn am Franwen yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnisien yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial. I wneud yn iawn am y sarhad mae Bendigeidfran yn rhoi'r Pair Dadeni i Fatholwch.

Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, Gwern, iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnisien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi drudwy ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Bendigeidfran yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.

Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch. Cyn y cyfarfod â Efnisien i edrych y neuadd. Mae'n cael allan ystryw gan y Gwyddyl sy'n cuddio rhyfelwyr arfog mewn sachau sy'n hongian yno. Mae Efnisien yn gofyn beth sydd yn y sachau. "Blawd ydyw," yw ateb y Gwyddyl, ac felly mae Efnisien yn mynd o sach i sach gan ei bodio a gwasgu pennau'r rhyfelwyr nes bod pob un o'r ddau gant yn farw. Yno mae'n canu englyn dychanol:

Yssit yn y boly hwnn amryw ulawt,
Keimeit, kynniuyeit, diskynneit yn trin,
Rac kydwyr cad barawt.

Yn ystod y drafodaeth ymddengys fod y Brythoniaid/Cymry yn dechrau meddalu a derbyn amodau heddwch y Gwyddyl, ond mae Efnisien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad anochel, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Mae'r Gwyddelod yn rhoi cyrff eu rhyfelwyr marw yn y Pair Dadeni, a roddasid i Fatholwch gan Fendigeidfran, i'w adfywio fel y gallent ymladd unwaith eto ac mae'r Brythoniaid yn dechrau colli'r dydd. Mewn un weithred anhunanol sydd mewn gwrthgyferbyniaeth lwyr i'w ran yn yr hanes hyd yno, mae Efnisien yn aberthu ei hun er mwyn arbed y Cymry trwy neidio i mewn i'r Pair a'i ddryllio, gan ladd ei hun yn yr ymdrech gorddynol. Yn y diwedd mae holl wŷr Iwerddon wedi ei lladd, a dim ond saith o fyddin Bendigeidfran sy'n fyw i ddychwelyd i Brydain gyda Branwen. Lladdwyd Bendigeidfran ei hun, ond cyn marw gorchymynodd i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy.

Mae rhai haneswyr llên yn awgrymu fod cymeriad Efnisien yn seiliedig ar Bricriu Nemthenga yn y chwedl Wyddeleg Fled Bricrenn, ond nid yw pawb yn derbyn hynny.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)