Llyfr Gwyn Rhydderch

Oddi ar Wicipedia
Llyfr Gwyn Rhydderch
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
Deunyddmemrwn, inc Edit this on Wikidata
Rhan oLlawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1350 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth ffuglen Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Prif bwncllên gwerin Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPedair Cainc y Mabinogi, Y Tair Rhamant, Breuddwyd Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys, Culhwch ac Olwen Edit this on Wikidata
Llyfr Gwyn Rhydderch.

Llyfr Gwyn Rhydderch yw un o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf a mwyaf cynhwysfawr sydd wedi goroesi. Tybir i'r rhan fwyaf ohono gael ei ysgrifennu yn ne-orllewin Cymru tua 1350. Dyma'r casgliad cynharaf o destunau rhyddiaith yn y Gymraeg, ond eto'n cynnwys rhai enghreifftiau o farddoniaeth gynnar. Oherwydd ei dafodiaith tybir fod y copïwr yn ŵr o Ddeheubarth ac mae'n bosibl fod cysylltiad rhyngddo a mynachlog Ystrad Fflur. Daw'r enw o'r ffaith i'r llyfr gael ei ysgrifennu ar gyfer y noddwr Rhydderch ab Ieuan Llwyd, o Lyn Aeron, Ceredigion ac mai gwyn yw lliw'r clawr. Fe'i cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth mewn dwy ran, llawygrif Peniarth 4 a Pheniarth 5 (rhanwyd y llawysgrif yn ddau tua diwedd yr Oesoedd Canol), fel rhan o'r casliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Yn y llyfr ceir nifer o gyfieithiadau Cymraeg o destunau Lladin a Ffrangeg, gan gynnwys Delw y Byd, Efengyl Nicodemus, Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth, bucheddau'r saint fel Buchedd Mair Wyry, Buchedd Sant Catrin, Buchedd Fargred a Mair o'r Aifft, testunau crefyddol eraill fel Purdan Padrig, ynghyd â chwedl Siarlymaen (Ystorya de Carolo Magno) ac Ystorya Brown o Hamtwn. Cedwir y rhain yn llawysgrif Peniarth 5.

Ond y deunydd pwysicaf o lawer yw'r testunau o'r chwedlau Cymraeg Canol a adnabyddir fel y Mabinogion (yn gamarweiniol), sef Pedair Cainc y Mabinogi, Y Tair Rhamant, Breuddwyd Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys a chwedl Culhwch ac Olwen (dim ond testun o Breuddwyd Rhonabwy sydd eisiau). Dyma'r casgliad pwysicaf a chynharaf o chwedlau Cymraeg Canol ac eithrio Llyfr Coch Hergest. Cedwir y rhain yn llawysgrif Peniarth 4.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J. Gwenogvryn Evans (gol.), The White Book Mabinogion (Pwllheli, 1907). Testun diplomatig.
  • R.M. Jones (rhagymadrodd): J. Gwenogvryn Evans (gol.), Llyfr Gwyn Rhydderch: Y Chwedlau a'r Rhamantau (Caerdydd, 1973).

Dolen allanol[golygu | golygu cod]