Pryderi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymeriad ym Mhedair Cainc y Mabinogi yw Pryderi, mab Pwyll, brenin Dyfed, a Rhiannon ei wraig. Ef yw'r unig gymeriad sy'n ymddangos ym mhob un o'r pedair cainc.

Chwedl Pryderi[golygu]

"Pryderi and Rhiannon", darlun gan Albert Herter (1899)

Yn y Gainc Gyntaf, Pwyll, Pendefig Dyfed, ceir hanes geni Pryderi. Mae Pwyll yn cyfarfod Arawn, brenin Annwfn (yr Arallfyd) ac yn cyfnewid lle â fo am flwyddyn ac yn ennill Rhiannon yn wraig. Genir mab i Bwyll a Rhiannon, ond y noson ar ôl ei eni mae y baban yn diflannu. Cyhuddir Rhiannon o'i ladd, ac er iddi wadu hyn mae'r llys yn pwyso ar Pwyll i'w hysgar. Gwrthyd Pwyll wneud hyn, ond mae Rhiannon yn gorfod gwneud penyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach mae Teyrnon Twrf Liant, brenin Gwent Is Coed, yn dod â'r mab i lys Pwyll. Yr oedd y bachgen wedi ei gymeryd trwy hud i lys Teyrnon, lle magwyd ef dan yr enw "Gwri Wallt Eurin". Caiff yr enw Pryderi o eiriau Rhiannon pan glyw fod ei mab yn fyw: "Oedd esgor fy mhryder im, pe gwir hynny."

Wedi marwolaeth Pwyll mae Pryderi yn ei ddilyn ar orsedd Dyfed. Mae'n ychwanegu tri chantref Ystrad Tywi a phedwar cantref Ceredigion at ei deyrnas, ac mae'n priodi â Cigfa ferch Gwyn Gohoyw.

Dim ond rhan fechan sydd gan Pryderi yn yr Ail Gainc, Branwen ferch Llŷr. Wedi'r rhyfel yn Iwerddon rhwng gwŷr Bendigeidfran a gwŷr Matholwch, brenin Iwerddon, dim ond saith o'r Cymry sy'n dychwelyd yn fyw, gyda Pryderi yn un ohonynt.

Yn y Drydedd Gainc, Manawydan fab Llŷr, mae Pryderi yn rhoi ei fam, Rhiannon, yn wraig i'w gyfaill Manawydan fab Llŷr. Cyn hir mae hud yn disgyn ar Ddyfed ac mae ei phoblogaeth yn diflannu, heblaw am Manawydan, Rhiannon, Pryderi a Cigfa, gwraig Pryderi. Gorfodir hwy i symud i Loegr, lle mae Manawydan a Phryderi yn ennill bywoliaeth fel crefftwyr. Maent yn ymgymeryd a nifer o grefftau, ond mae eu gwaith mor dda nes bod y crefftwyr lleol yn elyniaethus ac yn eu gorfodi i symud o fan i fan. Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio pan mae'n gafael mewn cawg o fewn caer hud ac yn glynu wrtho, ac yna mae Rhiannon hefyd yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub. Mae'r gaer a hwythau yn diflannu, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog Llwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill Gwawl fab Clud ei gamdrin gan Pwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.

Yn y Bedwaredd Gainc, Math fab Mathonwy, mae Pryderi yn arglwydd ar saith cantref Morgannwg yn ogystal a Dyfed, Ceredigion ac Ystrad Tywi. Daw Gwydion ap Dôn o Wynedd i'w lys yn Rhuddlan Teifi yn rhith bardd i geisio'r moch a gafodd Pryderi gan Arawn, brenin Annwfn. Mae Gwydion yn rhithio ceffylau, milgwn a thariannau, ac yn eu cyfnewid am y moch. Y diwrnod wedyn, mae'r ceffylau, milgwn a thariannau yn diflannu. Mae hyn yn arwain at ryfel rhwng Dyfed a Gwynedd, sy'n diweddu gyda ymladdfa rhwng Pryderi a Gwydion. Lleddir Pryderi, a chaiff ei gladdu ym Maentwrog.

Llyfryddiaeth[golygu]

Testun
  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)

Cyfeiriadau[golygu]