Branwen ferch Llŷr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y chwedl yw hon. Gweler hefyd Branwen (gwahaniaethu).
"Y Ddau Frenin" gan Ivor Roberts-Jones: Bendigeidfran yn cario corff ei nai, Gwern. Cerflun ger Castell Harlech.

Chwedl Branwen ferch Llŷr yw'r ail o Bedair Cainc y Mabinogi.

Mae'r chwedl yn agor gyda Bendigeidfran fab Llŷr yn sefyll ar graig yn Harlech yn edrych tua'r môr, lle gwelir llongau yn dynesu. Yr ymwelydd yw Matholwch brenin Iwerddon, sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, Branwen, yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien, hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.

Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, Gwern, iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi drudwy ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Bendigeidfran yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.

Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Yr oedd Matholwch wedi derbyn pair hud gan Fendigeidfran fel iawn am ei sarhad, a phan mae'r Gwyddelod yn rhoi eu rhyfelwyr marw ynddo, maent yn dod yn fyw eto. Mae Efnysien yn ymguddio ymhlith y meirwon, a phan roir ef yn y pair dadeni mae'n ei dorri, ond yn marw ei hun yn yr ymdrech.

Yn y diwedd mae holl wŷr Iwerddon wedi ei lladd, a dim ond saith o fyddin Brân sy'n fyw i ddychwelyd i Brydain. Lladdwyd Bendigeidfran ei hun, ond cyn marw gorchymynodd i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy. Wedi dychwelyd, mae Branwen yn marw o dor-calon ger aber Afon Alaw ar Ynys Môn ac yn cael ei chladdu yno. Gellir gweld Bedd Branwen ger Afon Alaw hyd heddiw, ond mae'n llawer hŷn na'r chwedl, yn dyddio i'r Oes Efydd.

Llyfryddiaeth[golygu]

Y testun[golygu]

  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)