Sussex

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sussex
SussexBrit5.PNG

Sir hanesyddol yn ne-ddwyrain Lloegr yw Sussex. Daw'r enw o'r Hen Saesneg Sūþsēaxe ('Sacsoniaid Deheuol'), ac mae ardal y sir hanesyddol yn cyfateb yn fras i ardal hynafol Teyrnas Sussex a sefydlwyd gan Ælle o Sussex yn 477CC, a daeth yn ran o deyrnas Wessex yn 825, a teyrnas Lloegr yn ddiweddarach. Caiff ei ffinio i'r gogledd gan Surrey, i'r dwyrain gan Gaint, i'r de gan y Môr Udd, ac i'r gorllewin gan Hampshire. Caiff ei rannu yn dri ardal llywodraeth leol, sef wedi ei rannu yn Gorllewin Sussex, Dwyrain Sussex a dinas Brighton a Hove. Crewyd dinas Brighton & Hove yn awdurdod unedigl ym 1997; a derbyniodd statws dinas yn 2000. Tan hynny, Chichester oedd unig ddinas Sussex.

Caiff Sussex ei rannu'n dair prif is-ranbarth daearyddol. Yn y de-orllewin mae cwastad arfordirol ffrwythlon gyda phoblogaeth dwys. Mae bryniau sialc y South Downs yn rhollio i'r gogledd o hyn, a thu hwnt i'r bryniau ceir ardal goedwigol Sussex Weald.

Aiff hanes y sir yn ôl ymhellach, gyda Boxgrove, Sussex yn leoliad nifer o ddarganfyddiadau cynharaf hominid Ewrop. Mae hefyd wedi bod yn safle allweddol ar gyfer o ymosodiadau ar yr ynys, megis Goresgyniad Prydain y Rhufeiniaid a Brwydr Hastings.

Parhawyd i ddefnyddio Sussex fel swydd seremonïol hyd 1974, pan benodwyd Arglwydd Is-gapten ar gyfer Gollewin a Dwyrain Sussex, yn hytrach nag un Arglwydd Is-gapten Sussex. Er y rhaniadau llywodraethol a ddilynodd, mae Sussex gyfan wedi parhau i fod â llu heddlu unedig ers 1968.


Swyddi seremonïol Lloegr Flag of England.svg

Swydd Amwythig | Swydd Bedford | Berkshire | Bryste | Swydd Buckingham | Swydd Gaer | Swydd Gaergrawnt | Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaerloyw | Swydd Gaerlŷr | Swydd Gaerwrangon | Caint | Cumbria | Swydd Derby | Dorset | Swydd Durham | Dyfnaint | De Efrog | Gogledd Efrog | Gorllewin Efrog | Essex | Glannau Merswy | Gorllewin y Canolbarth | Gwlad yr Haf | Hampshire | Swydd Henffordd | Swydd Hertford | Swydd Lincoln | Llundain Fwyaf | Manceinion Fwyaf | Middlesex | Norfolk | Swydd Northampton | Northumberland | Swydd Nottingham | Riding Dwyreiniol Efrog | Rutland | Swydd Rydychen | Swydd Stafford | Suffolk | Surrey | Dwyrain Sussex | Gorllewin Sussex | Tyne a Wear | Swydd Warwick | Swydd Wilton | Ynys Wyth |


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato