Oesoedd Canol Cynnar

Oddi ar Wicipedia

Term yw Oesoedd Canol Cynnar a ddefnyddir gan haneswyr i ddisgrifio rhan gyntaf yr Oesoedd Canol, o'r cyfnod ôl-Rufeinig hyd at tua dechrau'r 11g. Mae'r diffiniad yn amrywio rhywfaint yn ôl y wlad neu ranbarth ac mae'r term, fel y term 'Oesoedd Canol' ei hun, yn cael ei ddefnyddio gan amlaf i gyfeirio at gyfnod yn hanes Ewrop a rhanbarthau cyfagos. Mae'r term yn cynnwys y cyfnod a elwir weithiau "yr Oesoedd Tywyll".

Yn hanes gwledydd Prydain, mae haneswyr yn defnyddio'r term 'Oesoedd Canol Cynnar' i gyfeirio at y cyfnod rhwng diwedd rheolaeth Rhufain ym Mhrydain a dyfodiad y Normaniaid. Gelwir y cyfnod rhwng ymadawiaid y llengoedd a sefydlu Cymru, yr Alban a Lloegr fel tiriogaethau diffiniedig, fwy neu lai, y cyfnod Ôl-Rufeinig, a welodd yr Eingl-Sacsoniaid yn ymestyn eu grym ar draul y Brythoniaid: dyma gyfnod yr Hen Ogledd a sefydlu teyrnasoedd cynnar Cymru.

Dilynwyd yr Oesoedd Canol Cynnar gan yr 'Oesoedd Canol Uwch' (High Middle Ages) a chyfeirir at ran olaf yr Oesoedd Canol fel yr Oesoedd Canol Diweddar.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.