Afon Humber

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pont Humber ar yr Humber

Moryd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw'r Humber, neu afon Humber fel y'i gelwir weithiau. Mae'n foryd hir a ffurfir gan gydlifyad yr afon Ouse a'r afon Trent. Rhed ar gwrs dwyreiniol i Fôr y Gogledd, gan lifo heibio i borthladdoedd Hull, Immingham a Grimsby. Ei hyd yw 40 milltir.

Mae'n cael ei chroesi gan Pont Humber, a oedd y bont un rhychwant hiraf yn y byd (1410m / 4626 troedfedd) pan gafodd ei hagor yn 1981.

Yn yr 8fed ganrif dynodai afon Humber ffin ogleddol teyrnas Offa, brenin Mercia, gyda theyrnas Northumbria yn gorwedd i'r gogledd.