Gildas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Sant Gildas ym Morbihan, Llydaw.

Roedd Gildas (bu farw c. 570) yn glerigwr, efallai yn fynach, sy’n fwyaf adnabyddus fel awdur y traethawd De Excidio Britanniae ("Ynghylch dinistr Prydain"). Gelwid ef yn Gildas Sapiens (Gildas Ddoeth) ac weithiau “Gildas Badonicus”.

Bywyd[golygu]

Mae dau fersiwn o Fuchedd Gildas ar gael. Ysgrifennwyd un fuchedd, efallai yn y 9fed ganrif gan fynach o Ruys yn Llydaw. Dywed ef fod Gildas yn fab i Caunus (Caw), a’i fod wedi ei eni yn Arecluta (Alt Clut, neu Ystrad Clud). Gyrrwyd ef i’w addysgu gan Illtud, ynghyd a Samson a Paul Aurelian. Yn nes ymlaen bu’n astudio yn Iwerddon, ac wedi ei ordeinio dychwelodd i’r Hen Ogledd I genhadu. Teithiodd i Rufain a Ravenna. Daeth i Lydaw ac ymsefydlodd yno ar ynys Ruys, lle adeiladodd fynachlog. Bu farw yn Ruys ar 29 Ionawr, ac yn ôl ei ddymuniad rhoddwyd ei gorff mewn cwch a gadael iddo fynd gyda’r llanw. Dri mis yn ddiweddarach ar 11 Mai, cafodd gwŷr o Ruys hyd i’r cwch ar y lan, a chorff Gildas yn dal ynddo yn berffaith. Aethant â’i gorff yn ôl i Ruys a’i gladdu yno.

Ffynnon Gildas, Morbihan, Llydaw.

Ysgrifennwyd yr ail Fuchedd gan Caradog o Lancarfan yn hanner cyntaf y 12fed ganrif. Dywed i Gildas gael ei addysgu yng Ngâl ac iddo ymddeol i Street (Gwlad yr Haf) a’i fod wedi ei gladdu yn Glastonbury. Nid yw Caradog yn crybwyll unrhyw gysylltiad â Llydaw, ac mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu bod dau berson gwahanol o’r enw Gildas. Fodd bynnag, mae llawer o’r manylion eraill yn cyfateb. Cred rhai ysgolheigion fod y manylion am Glastonbury wedi eu hychwanegu yn ddiweddarach. Mae Caradog yn rhoi nifer o hanesion am Gildas a’r Brenin Arthur. Dywed fod brodyr Gildas wedi gwrthryfela yn erbyn Arthur, a bod Arthur wedi lladd y brawd hynaf, Huail ap Caw. Yn ôl un traddodiad, dienyddiwyd Huail ap Caw yn Rhuthun.

Yn ôl Bonedd y Saint, roedd gan Gildas dri mab a merch, Gwynnog, Noethon, Dolgar a Tydech. Ychwanegwyd Cenydd at y rhestr mewn nodyn gan Iolo Morganwg, rheswm digonol dros ei amau.

De Excidio Britanniae[golygu]

Gwaith enwocaf Gildas yw'r De Excidio Britanniae, sy’n bregeth mewn tair rhan yn condemnio pechodau’r Brythoniaid yn ei oes ef ac yn awgrymu mai oherwydd y pechodau hyn yr oedd y Sacsoniaid wedi goresgyn rhan helaeth o’r ynys. Mae’n condemnio pum teyrn yn arbennig, Constantinus, tern Damnonia, Aurelius Caninus, Vortiporius, teyrn Dyfed, Cuneglas a Maelgwn Gwynedd ("Maglocunus"). Cyfeiria at Frwydr Mynydd Baddon, ond nid yw’n crbwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Nid yw’n crybwyll enw Arthur, a gysylltir a brwydr Mynydd Baddon gan Nennius yn ddiweddarach.

Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud bod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er bod y Lladin wreiddiol yn anodd yn y frawddeg hon. Yn ôl yr Annales Cambriae bu Glidas farw yn 570; yn ôl Brut Tigernach 569 oedd y flwyddyn.

Nid oedd Gildas yn hanesydd nac yn bwriadu ysgrifennu hanes; mae John Davies yn Hanes Cymru yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod A. W. Wade-Evans yn cyfeirio at y De excidio fel y llyfr a fu'n gyfrifol am osod seiliau hanes Cymru "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Er hynny ef yw’r unig ffynhonnell sydd ar gael o’r cyfnod yma.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • John Owen Jones (gol.), O Lygad y Ffynnon: cyfieithiadau o weithiau haneswyr boreuaf Cymru (Davies ac Evans, Y Bala, 1890)
  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
  • A.W. Wade-Evans (cyf.), Coll Prydain (Lerpwl, 1950)
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
  • Two lives of Gildas: by a Monk of Ruys, and Caradoc of Llancarfan, cyfieithiad Hugh Williams (Llanerch, 1990) ISBN 0947992456

Cysylltiadau allanol[golygu]