Rhufoniog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Cantref yn Y Berfeddwlad yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Rhufoniog. Rhyngddo a Môr Iwerddon gorweddai cantref Rhos. Cyfeirir at y ddau gantref gyda'i gilydd weithiau fel 'Rhos a Rhufoniog' ac maent yn cyfateb yn fras i diriogaeth yr hen Sir Ddinbych. Yn y gogledd a'r dwyrain roedd Afon Elwy, Afon Clwyd ac Afon Clywedog yn ffurfio ffin naturiol. Fel heddiw roedd y tir yn llwm ac anghysbell.

Yr oedd tri o gymydau yn Rhufoniog, sef Uwch Aled ac Is Aled gydag Afon Aled yn ffin rhyngddyn nhw, a chwmwd Ceinmeirch (hefyd 'Cymeirch' neu 'Ystrad') yn y de-ddwyrain rhwng Afon Lliwen ac Afon Clywedog.

Mae hanes cynnar y cantref yn anhysbys. Yn ôl traddodiad cafodd ei enwi ar ôl Rumaun, un o feibion Cunedda. Roedd yn rhan o diriogaeth y Deceangli yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd llawer o'r tir yn nwylo esgobion Bangor a Llanelwy. Erbyn yr Oesoedd Canol, Dinbych oedd ei ganolfan. Rhoddwyd y cantref i'r tywysog Dafydd ap Gruffudd yn 1277 a phum mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl marwolaeth Dafydd, fe roddwyd i Henry Lacy, Iarll Lincoln. Gyda chantref Rhos, lluniwyd arglwyddiaeth Dinbych.

Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r diriogaeth yn gorwedd yn Sir Ddinbych, gyda rhannau gorllewinol yn sir Conwy.

Gweler hefyd[golygu]