Maelienydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Yr oedd Maelienydd (sillafiad amgen: Maeliennydd) yn gantref ac arglwyddiaeth yn nwyrain canolbarth Cymru, a oedd yn cynnwys yr ardal sy'n gorwedd rhwng afon Ieithon yn y gorllewin a Fforest Faesyfed ar y ffin â Lloegr yn y dwyrain. Mae'r ardal, sy'n fryniog yn bennaf, yn rhan o Bowys heddiw.

Daearyddiaeth[golygu]

I'r dwyrain ffiniai Maelienydd â Swydd Henffordd yn Lloegr, i'r de â chantref Elfael, i'r gorllewin â chwmwd Gwerthrynion, ac i'r gogledd â chantref Arwystli ym Mhowys a chwmwd Ceri. Roedd yn cael ei gyfrif yn rhan o'r rhanbarth ganoloesol Rhwng Gwy a Hafren, sy'n gorwedd rhwng teyrnas Powys i'r gogledd a Brycheiniog i'r de.

Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, cafodd Maelienydd ei rannu yn dri chwmwd, sef :

Cynllo oedd nawddsant Maelienydd, gyda eglwys gysegredig iddo yn Llanbister. Cefnllys oedd prif ganolfan y cantref. Yn ddiweddarach codwyd Abaty Cwm Hir gan y Sistersiaid yn nwyrain y cantref.

Hanes[golygu]

Mae'n bosibl fod Maelienydd yn fân deyrnas neu arglwyddiaeth annibynnol yn y Gymru gynnar a ymestynnai'n bellach i'r de na'r cantref canoloesol, gan gynnwys felly yr ardal ger Llanfair-ym-Muallt heddiw yn ei thiriogaeth. Ychydig iawn a wyddys am ei hanes cynnar.

Daeth Maelienydd yn ardal o bwys strategol mawr ar ôl dyfodiad y Normaniaid, oherwydd ei lleoliad. Mae'n ymddangos ei bod dan reolaeth Normanaidd erbyn 1093, ond yn y 12fed ganrif daeth yn ardal yr ymladdwyd drosti gan arglwyddi Cymreig lleol, yn enwedig Cadwallon ap Madog, a'r Mortimeriaid grymus. Yn 1179 lladdwyd Cadwallon gan rhai o ddeiliaid Roger Mortimer wrth iddo ddychwelyd i Bowys ar ôl ymweld â llys Harri II o Loegr. Gan fod Cadwallon yn ddeiliad i'r brenin mewn enw, carcharwyd Roger Mortimer gan y brenin, a geisiai danseilio grym arglwyddi Normanaidd annibynnol y Mers, ac etifeddwyd Maelienydd gan fab Cadwallon, Maelgwn ap Cadwallon. Pan ryddhawyd Roger Mortimer o'r carchar cipiodd ran helaeth yr arglwyddiaeth, ond yn ddiweddarach llwyddodd Maelgwn i adfer ei feddiant gyda chymorth Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth. Ar ôl marwolaeth Rhys cipiwyd y diriogaeth gan y Mortimeriaid eto.

Parhaodd yr ymgiprys am reolaeth ar Faelienydd yn y 13eg ganrif, pan ddaeth yn llwyfan i frwydro rhwng lluoedd brenin Lloegr a Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd o Wynedd. Yn y cyfnod hwnnw codwyd sawl castell ym Maelienydd, yn cynnwys Castell Cefnllys a Chymaron.

Credir fod un o'r prif fersiynau o'r Cyfreithiau Cymreig, fersiwn Cyfnerth, gael ei llunio ym Maelienydd pan fu dan ddylanwad Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth yn ail hanner y 12fed ganrif.

Ar ôl cwymp Cymru annibynnol yn 1283, Maelienydd oedd un o ddau gantref a unwyd i ffurfio Sir Faesyfed. Hyd heddiw mae Maelienydd yn enw ar yr ardal.

Cyfeiriadau[golygu]

  • R.R. Davies, Conquest, coexistence and change: Wales 1063 - 1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987) ISBN 978-0-19-821732-9
  • W. H. Howse, Radnorshire (E. J. Thurston, 1949)
  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)