Rhiwlallt

Oddi ar Wicipedia

Cwmwd yng nghantref Maelienydd, yn y rhanbarth yng nghanolbarth Cymru a adnabyddid fel Rhwng Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol, oedd Rhiwlallt.

Gyda Buddugre a Dinieithon, roedd yn un o dri chwmwd cantref Maelienydd. Gorweddai'r cwmwd yng nghanol Maelienydd, ar lannau afon Lug.

Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Mae'n debyg y bu'n rhan o Deyrnas Powys yn yr Oesoedd Canol Cynnar pan roedd tiriogaeth y deyrnas honno yn ehangach. Yn nes ymlaen, fel gweddill Maelienydd, daeth yn rhan o Sir Drefaldwyn yn 1536.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.