Dinieithon

Oddi ar Wicipedia
Dinieithon
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMaelienydd, Rhwng Gwy a Hafren Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaBuddugre, Rhiwlallt Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2559°N 3.3402°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd yng nghantref Maelienydd, yn y rhanbarth yng nghanolbarth Cymru a adnabyddid fel Rhwng Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol, oedd Dinieithon. Ystyr yr enw yw "Caer Ieithon".

Gyda Buddugre a Rhiwlallt, roedd yn un o dri chwmwd cantref Maelienydd. Gorweddai'r cwmwd yng ngwaelod (de) Maelienydd, gyda'i lys yn Nghefn Llys. Dyma'r pwysicaf o'r tri chwmwd, gyda'r tir gorau.

Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Mae'n debyg y bu'n rhan o Deyrnas Powys yn yr Oesoedd Canol Cynnar pan roedd tiriogaeth y deyrnas honno yn ehangach. Yn y 12g, cododd arglwyddi Normanaidd y Mers gastell Dinieithon, ger Llandrindod. Yn nes ymlaen, fel gweddill Maelienydd, daeth yn rhan o Sir Drefaldwyn yn 1536.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]