Abaty Cwm-hir
- Mae'r erthygl hon yn trafod yr abaty. Am y gymuned o'r un enw, gweler Abaty Cwm-hir (cymuned)
Abaty yn perthyn i Urdd y Sistersiaid oedd Abaty Cwm-hir, neu Abaty Cwm Hir. Saif i'r gogledd o dref Llandrindod ym Mhowys.
Sefydlwyd y fynachlog yn 1143, a chafodd ei hail-sefydlu gan fynachod o Abaty Hendy-gwyn yn 1176. Sefydlwyd Abaty Cymer gan ynachod oddi yma yn 1198. Cafodd nawdd Llywelyn Fawr, ac mae eglwys yr abaty y fwyaf yng Nghymru, 75 medr o hyd. Claddwyd corff Llywelyn ap Gruffudd yma wedi ei ladd yng Nghilmeri yn Rhagfyr, 1282.
Erbyn 1381, dim ond wyth mynach oedd yn weddill yma, a dinistriwyd yr abaty yn rhannol yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Archaeoleg [golygu]
Cafwyd peth cloddio mor bell yn ôl â'r 1820au a'r 1890au. Bu nifer o archwiliadau'n ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, gan gychwyn yn 1988.
Cymuned [golygu]
Mae Abaty Cwm-hir hefyd yn Gymuned.