Dunoding

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Un o hen gantrefi Cymru oedd Dunoding. Roedd yn gorwedd ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Bae Ceredigion yng ngogledd-orllewin Cymru ac yn rhan o deyrnas Gwynedd. Roedd gwastadeddau Y Traeth Mawr yn ei rhannu'n ddau gwmwd, sef Eifionydd ac Ardudwy. Ar ei ffin ogledd-orllewinol ceir cantref Llŷn, yn y gogledd ceir cantrefi Arfon a chwmwd Nant Conwy yn Arllechwedd. Yn y dwyrain ffiniai â Phenllyn ac yn y de â Meirionnydd.

Mae Dunoding yn cael ei enw ar ôl Dunod (Dunawd), un o feibion Cunedda. Daliai disgynyddion Dunod eu gafael arno fel uned led-annibynnol hyd at y 10fed ganrif, ac mae rhai hanesyddion yn dadlau fod Dunoding yn frenhiniaeth annibynnol yn yr Oesoedd Canol cynnar.

Cantref bur arw a chreigiog oedd Dunoding. Mae cwmwd Eifionydd, yn y gogledd, yn gorwedd rhwng Afon Erch a'r Traeth Mawr gyda bryniau de Eryri yn gefn iddo. Dolbenmaen oedd prif lys y cwmwd yn ôl pob tebyg. I'r de o'r Traeth Mawr ceid cwmwd Ardudwy a'r safleoedd milwrol Harlech a Mur-y-Castell. Cantref cymharol dlawd oedd hi ac ni cheir canolfannau eglwysig o bwys yn ei ffiniau, er bod ganddi nifer o eglwysi cynnar.

Rhestr o reolwyr Dunoding[golygu]

Mae'r achrestrau canoloesol, sy'n ffynonellau i'w trin â gofal, yn cofnodi rheolwyr Dunoding fel a ganlyn:

  1. Dunod ap Cunedda (from c.450)
  2. Einion ap Dunod
  3. Dingad ab Einion
  4. Meurig ap Dingad
  5. Einion ap Meurig
  6. Isaag ab Einion
  7. Podgen Hen ab Isaag
  8. Poedlew ap Podgen
  9. Iddon ap Poedlew
  10. Brochfael ab Iddon
  11. Eigion ap Brochfael
  12. Iouanwal ab Eigion
  13. Caradog ab Iouanwal
  14. Bleiddud ap Caradog
  15. Cuhelm ap Bleidudd (c.860 - 925)