Fforest Faesyfed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhos Fawr
Fforest Faesyfed
Llethrau uchaf Rhos Fawr
Llun Llethrau uchaf Rhos Fawr
Uchder 660m / 2,165 troedfedd
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Cymru


Cramen garreg o ucheldir yn nwyrain canolbarth Cymru yw Fforest Faesyfed (Saesneg: Radnor Forest). Fe'i enwir ar ôl Maesyfed, un o hen ardaloedd Powys. Gelwir yr ucheldir yn 'fforest' am ei fod yn tir agored a osodwyd o'r neilltu ar gyfer hela gan arglwyddi lleol yn yr Oesoedd Canol. Roedd yn ffurfio calon yr ardal ddaearyddol ganoloesol a adwaenid fel Rhwng Gwy a Hafren.

Ar 22 Mehefin, 1402, cafodd Owain Glyndŵr fuddoliaeth fawr ar y Saeson ym Brwydr Bryn Glas, ar odre ogleddol Fforest Faesyfed.

Pwyntiau uchaf Fforest Faesyfed yw'r Rhos Fawr, llwyfandir eang o laswellt a grug sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, Black Mixen, bron ar y ffin â Swydd Henffordd yn Lloegr. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf.

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nant Melan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys.[1]

Cyfeiriadau[golygu]