Gwerthrynion

Oddi ar Wicipedia
Gwerthrynion
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 450 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaBuellt, Arwystli Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.31°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd yn y rhan o ganolbarth Cymru a adnabyddid fel Rhwng Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol oedd Gwerthrynion, neu Gwrtheyrnion. Mae'n bosibl y gellir cyfrif Gwerthrynion yn un o fân deyrnasoedd cynnar y wlad, ond does dim prawf pendant am hynny.

Gorwedd y cwmwd, sydd ddim yn rhan o gantref, ar ffin teyrnas Powys Wenwynwyn. Ffiniai â Buellt, Cwmwd Deuddwr ac Arwystli i'r gorllewin a'r gogledd, ac â Maelienydd i'r dwyrain a rhan fach o Elfael i'r de.

Mae ei hanes cynnar yn ddirgelwch. Yn ôl Nennius yn yr Historia Brittonum (tua 800), sefydlwyd teyrnas yno gan y brenin Gwrtheyrn (Vortigern) (fl. tua 450 efallai). Ond gan fod lle i amau bodolaeth y brenin traddodiadol hwnnw mae'n bosibl mae ymgais Nennius i esbonio'r enw a geir yn y traddodiad. Yn ôl Nennius, roedd Sant Garmon wedi ceisio dwyn perswâd ar Wrtheyrn i droi'n Gristion ac ymatal rhag cael perthynas llosgach gyda'i ferch. Ffoes y brenin i'r bryniau a sefydlodd Gwrtheyrnion (Lladin: Guorthegirnaim). Llechodd yno gyda'i ferch a'i wreigiau rhag llid Garmon.[1]

Heddiw mae'r cwmwd yn cyfateb i ran o ardal Maesyfed, Powys. Canolfan weinyddol y cwmwd oedd Rhaeadr Gwy lle codwyd Castell Rhaeadr Gwy gan yr Arglwydd Rhys yn 1177. Ar adegau roedd Gwerthrynion yn uno gyda Buellt ac yn cael ei reoli gan gangen o deulu brenhinol Deheubarth. Cafodd ei gipio gan arglwyddi Normanaidd y Mers tua'r flwyddyn 1100 a'i dal am gyfnodau gan deulu'r Mortimeriaid[2]. Daeth i'w meddiant yn derfynol ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83 ac yn nes ymlaen yn rhan o Sir Faesyfed.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Nennius: British History and Welsh Annals, gol. John Morris (Phillimore, 1980), cap. 47.
  2. R.R. Davies, Conquest, coexistence and change, Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991), Atodiad.