Salem, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Salem, Salem.

Pentref bychan yng ngogledd Ceredigion yw Salem. Fe'i lleolir tua 6 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth a thua 3 milltir i'r dwyrain o'r Penrhyn-coch.

Gorwedd Salem ar ysgwydd y bryniau rhwng afonydd bychain afon Stewi ("Stewy" ar y map AO; cyfeirir ati fel 'Afon Salem' weithiau hefyd[1]) a Nant Silo sy'n ymuno'n nes i lawr y cwm i lifo i Afon Clarach.

Ceir Capel Salem yn y pentref, a godwyd fel capel Annibynnol yn 1824. Cafodd ei ailadeiladu'n sylweddol yn 1850 ac ychwanegwyd at yr adeilad yn 1864. Fe'i enwir ar ôl y Salem Feiblaidd.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llandybie, 1953), tud. 32.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato