Pen-y-garn, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
'Capel y Garn'

Pentrefan yng Ngheredigion, canolbarth Cymru, tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth yw Pen-y-garn.

Erbyn hyn, ynghyd â'r pentrefan Rhydypennau, mae'n cael ei ystyried fel rhan o bentref cyfagos Bow Street. Mae’r tri lle yn ymestyn ar hyd y briffordd o Aberystwyth i Fachynlleth (A487). Yn ogystal â'r tai ar y briffordd o Ysgol Rhydypennau i lawr i'r Lôn Groes, mae Pen-y-Garn yn cynnwys hefyd yr ystadau tai Cae'r Odyn, Maes y Garn, Bryn Mellion a Maes Ceiro.

'Capel y Garn' yw enw capel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhen-y-Garn. Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn 1780. Codwyd y capel cyntaf yn 1793, a chodwyd capel newydd ar y safle yn 1833 am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.

Enwogion[golygu]