John Elias

Oddi ar Wicipedia
John Elias
John Elias. Portread gan William Roos (1839)
Ganwyd6 Mai 1774 Edit this on Wikidata
Aber-erch Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 1841 Edit this on Wikidata
Llangefni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, pregethwr Edit this on Wikidata

Pregethwr enwog o Gymro oedd John Elias (ganwyd John Jones, 6 Mai 1774 - 8 Mehefin 1841). Bu'n ffigwr allweddol yn hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru a chafodd y llysenw "Y Pab Methodistaidd". Nai iddo oedd y llenor a beirniad John Roose Elias, "Y Thesbiad" (1819-1881).

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn Y Crymllwyn, Abererch ger Pwllheli, lle treuliodd ei lencyndod. Arferai fynychu'r gwasanaeth yn yr eglwys yn y bore, gyda'i dad, ac yna gwrando ar bregethwyr Ymneilltuol crwydrol gyda'r nos. Ymwelodd â Sasiwn Y Bala yn 1792 lle dyfnheuwyd ei argyhoeddiad. Gadawodd ei gartref teuluol ac aeth i fyw gyda Griffith Jones ym Mhenmorfa, gwehydd wrth ei grefft a phregethwr lleol adnabyddus a dechreuodd arwain gweddïau cyhoeddus. Cafodd ei dderbyn yn y Cyfarfod Misol yn aelod o Bresbyteriaeth Sir Gaernarfon ar Ddydd y Nadolig 1794, yn ugain oed. Priododd Elizabeth Broadhead, merch Richard Broadhead o blwyf Llanbadrig, ar 22 Chwefror 1799 ar ôl symud i fyw ym Ynys Môn. Yn 1811 ef oedd y gweinidog cyntaf i gael ei ordeinio pan ffurfiwyd yr Eglwys Fethodistaidd Gymreig yn y flwyddyn honno. Bu farw Elizabeth ar Ebrill 2, 1828. Cafodd bedwar o blant ganddi ond bu farw dau yn ifanc. Priododd eto yn 1830 a symud i fyw yn Llangefni, llu treuliodd weddill ei oes. Bu farw ar 8 Mehefin, 1841, a'i gladdu ym mynwent eglwys Llan-faes. Dywedir fod 10,000 o bobl o bob gradd wedi mynychu'r angladd.

Diwinyddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfyng iawn oedd ei ddiwinyddiaeth. Roedd yn Galfinydd digyfaddawd a arddelai Uchel-Galfiniaeth a gwirionedd lythrennol pob gair yn y Beibl. Roedd yn geidwadol o ran ei wleidyddiaeth a gwrthwynebai'n llym pob Radicaliaeth wleidyddol a chymdeithasol, yn arbennig y cysyniad poblogaidd ymhlith rhai Anghydffurfwyr mai llais y werin bobl yw llais Duw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Traethawd ar y Saboth (1804)
  • Golygiad Ysgrythurol ar Gyfiawnhad Pechadur (1821)
  • Hunangofiant (golygwyd a chyhoeddwyd gan Goronwy Prys Owen, 1974)


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.