William Roos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Talhaiarn (1864) gan William Roos.

Arlunydd Cymreig oedd William Roos (1808 - Gorffennaf 1878). Ceir y ffurf 'Roose' ar ei gyfenw hefyd, ond 'Roos' sy'n safonol. Roedd yn frodor o Amlwch, Ynys Môn. Fe'i cofir am ei bortreadau eiconaidd o rai o Gymry enwog ei gyfnod.[1]

Ceir casgliad o waith William Roos yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Mae'r casgliad yn cynnwys portreadau olew ar gynfas ganddo o'r beirdd John Jones (Talhaiarn), Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu, o'r pregethwyr Methodistaidd John Elias a Christmas Evans, ac o'r diwinydd ac awdur Methodistaidd Thomas Charles.[1] Paentiodd wrthrychau eraill hefyd, yn cynnwys darluniau o ddigwyddiadau hanesyddol fel Marwolaeth Owain Glyndŵr, a enillodd wobr iddo yn Eisteddfod Llangollen 1858,[1] a phaentiadau bywyd llonydd.

Bu farw'r arlunydd yn Amlwch yng Ngorffennaf 1878.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 Bedwyr Lewis Jones, 'William Roose', Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.