John Jones (Talhaiarn)
Oddi ar Wicipedia
Talhaiarn (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Bardd Cymraeg a phensaer oedd John Jones ("Talhaiarn") (19 Ionawr, 1810 - Hydref 1869). Roedd yn enedigol o bentref Llanfair Talhaearn, Sir Conwy (yn Sir Ddinbych yn amser Talhaiarn).
Ymhlith gwaith mwyaf adnabyddus Talhaiarn mae'r dilyniant o ugain o gerddi a gyhoeddodd wrth yr enw Tal ar ben Bodran (sef, Mynydd Bodran, ger Llanfair Talhaearn). Creodd y cerddi hyn gryn dipyn o stwr yn eu cyfnod oherwydd chwerwder awen y bardd a'r syniadau anuniongred a herfeiddiol a fynegodd, ond ceir hefyd gerddi o frogarwch sy'n ymhyfrydu yn natur yr ardal.[1]
Llyfryddiaeth [golygu]
- Gwaith Talhaiarn, 3 cyfrol (Llundain, 1855, 1862; Llanrwst, 1869)
- Thomas Gwynn Jones (gol.), Talhaiarn: Detholiad o gerddi (Gwasg Aberystwyth, 1930)
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ T. Gwynn Jones (gol.), Talhaiarn[:] detholiad o gerddi (Gwasg Aberystwyth, 1930), tt.12-13.