Abererch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Abererch
Eglwys Cawrdaf Sant, Abererch

Pentref ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd, rhyw filltir i'r dwyrain o dref Pwllheli yw Abererch. Cyfeirnod OS: SH 39930 36719. Mae'n rhan o gymuned Llannor.

Disgrifiad[golygu]

Saif y pentref ar Afon Erch ychydig cyn iddi gyrraedd y môr, a rhyw fymryn i'r gogledd o'r briffordd A497. Afon Erch yw ffin orllewinol Eifionydd, ac ystyrir y pentref yn rhan o'r ardal yma. Mae gan Abererch orsaf reilffordd, ond mae dipyn i'r de-ddwyrain o'r pentref ei hun, ger Morfa Abererch. Yma ceir tua thair milltir o draeth tywodlyd, yn ymestyn i'r dwyrain hyd at Benychain a gwersyll gwyliau Butlins.

Hanes a hynafiaethau[golygu]

I'r gogledd-ddwyrain mae hen blasdy Penarth Fawr.

Ceir eglwys hynafol Cawrdaf Sant yn Abererch. Ceir Ffynnon Gawrdaf ym mynwent yr eglwys a charreg fawr a enwir yn 'Gadair Cawrdaf', gyda eisteddle ynddo. Roedd defod hynod yn gysylltiedig â gŵyl y sant yn yr eglwys.[1]

Enwogion[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).