Pen-y-Garn
Oddi ar Wicipedia
Pentrefan yng Ngheredigion, canolbarth Cymru, tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth yw Pen-y-Garn. Erbyn hyn, ynghyd â'r pentrefan Rhydypennau, mae'n cael ei ystyried fel rhan o bentref cyfagos Bow Street. Mae’r tri lle yn ymestyn ar hyd y briffordd o Aberystwyth i Fachynlleth (A487). Yn ogystal â'r tai ar y briffordd o Ysgol Rhydypennau i lawr i'r Lôn Groes, mae Pen-y-Garn yn cynnwys hefyd yr ystadau tai Cae'r Odyn, Maes y Garn, Bryn Mellion a Maes Ceiro.
'Capel y Garn' yw enw capel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhen-y-Garn. Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn 1780. Codwyd y capel cyntaf yn 1793, a chodwyd capel newydd ar y safle yn 1833 am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.
[golygu] Enwogion
- Tom Macdonald, (1900-1980) newyddiadurwr a nofelydd.

