Cors Fochno

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar ran o Gors Fochno
Golygfa ar ran o Gors Fochno, gyda'r Borth yn y cefndir

Cors yng ngogledd Ceredigion yw Cors Fochno. Saif ar lan ddeheuol aber Afon Dyfi, rhwng yr aber a'r briffordd A487, wedi ei rhannu rhwng cymunedau Y Borth, Genau'r Glyn a Llangynfelyn. Mae'n un o'r ddwy gyforgors fwyaf yng Nghymru; Cors Caron yw'r llall. Llunir cyforgorsydd mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen.

Ffurfia Cors Fochno ran o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, sydd yn ei dro yn rhan o Fiosffer Dyfi, yr unig warchodfa biosffer UNESCO yng Nghymru. Hyd ganol yr 20fed ganrif roedd y trigolion lleol yn torri mawn o'r gors ar gyfer tanwydd.

Ceir nifer o chwedlau am y gors, yn enwedig y stori am Lyffant Cors Fochno, sy'n un o'r anifeiliaid hynaf yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Mae'r gors hefyd yn cael ei chrybwyll yn aml yn y brudiau fel safle un o'r brwydrau tynghedfennol rhwng y Cymry a'u cynghreiriad Celtaidd a'r Saeson. Mae Evan Isaac yn ei gyfrol Coelion Cymru yn rhoi hanes Gwrach Cors Fochno; credid ei bod yn achosi afiechyd oedd yn creu cryndod yn y dioddefwyr. Ymddengys mai malaria oedd yr afiechyd ond ceir sawl enghraifft arall ym mytholeg Geltaidd Prydain ac Iwerddon o gysylltu gwrach (h.y. dynes hen hagr, yn hytrach na witsh) â chorsydd. Dywedir hefyd mai ger ymyl Cors Fochno yr oedd gored Gwyddno Garanhir, lle cafodd Elffin hyd i'r baban Taliesin.

Yn 2004, cafodd yr archaeolegydd Gwilym Hughes hyd i ffordd neu drac wedi ei gwneud o foncyffion coed, yn dyddio o'r Canol Oesoedd cynnar, oedd wedi ei gladdu yn y gors.

Dolenni allanol[golygu]