Gwyddno Garanhir

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad chwedlonol Cymreig oedd Gwyddno Garanhir (neu Gwyddneu). Mae'n ymddangos gyntaf yn nhraddodiadau yr Hen Ogledd, ac mae Bonedd Gwŷr y Gogledd yn ei ddisgrifio fel un o ddisgynyddion y brenin Dyfnwal Hen.

Ymddengys mewn chwedloniaeth fel arglwydd Cantre'r Gwaelod, a leolid yn draddodiadol ym Bae Ceredigion, gyferbyn i Aberystwyth ac Aberdyfi. Cedwid y môr allan gan lifddorau, ond un diwrnod roedd y gwyliwr, Seithenyn, yn feddw, a boddwyd Cantre'r Gwaelod gan y môr. Mae'r gerdd Seithennin Saf Allan yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cyfeirio at foddi "Maes Gwyddneu" (Maes Gwyddno).

Mae cyfeiriad at Gwyddno yn chwedl Culhwch ac Olwen, ac mae ei fab, Elffin ap Gwyddno, yn gymeriad amlwg yn y chwedl Hanes Taliesin fel noddwr Taliesin Ben Beirdd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Ford, Patrick K. (gol.), Ystoria Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992). Testun Hanes Taliesin yn llaw Elis Gruffydd.
  • North, Frederick John, Sunken cities: Some legends of the coast and lakes of Wales (Caerdydd, 1957)
  • Williams, Taliesin (gol.), The Iolo Manuscripts (1848)