Llandyfriog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bach ar lannau gogleddol Dyffryn Teifi, Ceredigion, yw Llandyfriog, sy'n cael ei enw o sant Briog.

Mae ardal Cyngor Cymuned Llandyfriog yn ymestyn o Horeb yn y dwyrain i Adpar, maes-tref Castellnewydd Emlyn yn y gorllewin ac yn cynnwys pentrefi Aber-banc, Henllan, Penrhiw-Llan. Yn Adpar, sefydlwyd y wasg gyntaf yng Nghymru ac ymladdwyd yr ornest (duel) olaf ym Mhrydain. Mae tua deuparth o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond mae bron i 40% o drigolion yr ardal wedi eu geni y tu allan i Gymru.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato